y pedwar ffantastig

Dwi'n byw ar gyrion 'pentre' Silver Lake a lawr y stryd fel petai, yn Beverly Hills, mae Ioan Gruffudd yn byw (ac ein arwr arall.. Math!). Mewn 9 mis yma dwi ddim wedi gweld yr un ohonyn nhw (dwi ddim yn stalker arbennig o dda mae'n rhaid).

Wrth gwrs mae Ioan fyny yng Nghanada ar hyn o bryd yn ffilmio Fantastic Four 2. Fel mae'r fideo canlynol yn dangos, mae'r boi wedi 'mynd yn frodorol'. Beth yw'r betio y bydd e'n ennill Oscar mewn cwpl o flynyddoedd, mynd ar y llwyfan a dweud "thanks to my mam and dad in south wales.. oggy oggy oggy!"?

wedi saith ar flaen y gad

O na, dim neges arall am Wedi 7! Ie, flin am hynny. Ond wel, dwi newydd edrych ar rhaglen 'heddiw' (neithiwr i chi yng Nghymru) a reit ar y diwedd wnaeth Angharad sôn am beth fydd ar y sioe wythnos nesa, yn cynnwys 'lansio Wedi 7 ar Myspace'.

"Pam?" oedd fy nghwestiwn cynta. Er mwyn neidio ar bandwagon arall siwr o fod. Dwi'n deall pam fod bandiau tlawd neu blant 15 oed yn creu tudalennau (erchyll) ar MySpace, ond dwi ddim yn deall pam fod cwmniau teledu/ffilmiau eisiau gwneud hynny pan mae ganddyn nhw wefan ei hunan, yn enwedig pan fod ganddyn nhw y sgiliau i wneud gwefan sy'n gweithio ac yn edrych yn well na MySpace.

Mae'n rhan siwr o fod o'r dull 'marchnata' newydd, ond mae e ychydig bach fel sticio flyer ar bolyn lamp yn lle prynu hysbyseb ar fwrdd mawr.

Ychydig wedyn, wnes i feddwl... sgwn i os ganddyn nhw dudalen yn barod? Felly wnes i edrych am y cyfeiriad amlwg - www.myspace.com/wedi7 - a mae yna rhywun wedi ei gymryd yn barod! Mewn ffordd mae hyn yn dangos ffolineb defnyddio MySpace fel gwefan - mae'n hawdd i ffugio tudalen ar gyfer pobl neu gwmniau arall. Dwi'n edrych mlaen felly i weld lle fydd tudalen 'swyddogol' Wedi 7 yn ymddangos.

(Mewn newyddion arall.. dwi wedi symud i Blogger Beta felly dwi'n gobeithio na fydd hwn wedi torri unrhywbeth).

wedi 9 y bore

Dwi'n eistedd yma wrth i'r dydd ddechrau ac yn gwylio Wedi 7 ar y we, nôl yng Nghymru lle mae'n nosi (ond gwylio rhaglenni wythnos diwetha dwi'n wneud). Nid fod Wedi 7 yn rhoi rhyw ddarlun cywir o be sy'n mynd mlaen yng Nghymru, ond fe ddysges i ddau beth diddorol o sioe dydd Mercher dwetha.

Yn gynta, fod Berwyn Rowlands (sydd a'i fys mewn bach o bopeth yn y byd ffilm) wedi lansio gwobr Iris ar gyfer ffilmiau hoyw. Os dwi dal yma haf nesa, dwi'n gobeithio mynd i gŵyl ffilmiau Outcast yma yn LA, fydd yn gysylltiedig a'r wobr newydd yma mae'n debyg.

Roedd y dyfarnwr rygbi Nigel Owens yn y stiwdio ar yr un rhaglen a felly fe gafwyd sgwrs fyr iawn am y ffaith ei fod e yn ddyn hoyw sy'n gweithio yn y byd rygbi. Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn hoyw i ddweud y gwir ac ar ôl gwglo mae'n debyg mai blwyddyn dwetha daeth e mas, felly llongyfarchiadau iddo fe.

Mi fydde wedi bod yn ddiddorol cael trafodaeth bach yn hirach gyda fe am ei brofiad ond efallai mai rhyw sylw ffwrdd-a-hi ar ddiwedd y rhaglen oedd y ffordd orau oedd i gyflwyno hyn.

cusan kevin

Dwi'n gwybod eich bod chi gyd eisiau gwybod be sy'n digwydd yng nghyfres ddrama poethaf America, Brothers & Sisters? Wel, falle ddim, ond dwi am sgrifennu amdano unwaith eto. Y newyddion da yw fod y gyfres wedi ei 'bigo fyny' am dymor llawn, sef 22 pennod. Mae'n edrych hefyd fel petai y cymeriad hoyw Kevin, sy'n cael ei chwarae gan Matthew Rhys, am fod yn gymeriad canolog i'r dyfodol, nid fel gimic fel sy'n gallu digwydd yn aml gyda teledu America.

Fe gafodd Kevin bach o ramant yn y bennod diwetha a mae rhywun hyfryd wedi rhoi clip ar youtube - dyma fe. Sgwi yn wir!

brodyr a chwiorydd

Newyddion o LA:
Yn ddiweddar dwi wedi bod yn gwylio drama newydd ar sianel abc, Brothers and Sisters. Yr unig rheswm i wylio yw fod Matthew Rhys ynddo - mae'n chwarae rhan 'Kevin', cyfreithiwr (sy'n digwydd bod yn hoyw). Wel fe a Dave Annable sy'n hoff o ymddangos mewn golygfeydd heb ei grys - dim syniad eto os fydd Matthew yn dinoethi ond hei, ni'n byw mewn gobaith.

Dwi ddim yn meddwl fasen i'n gwylio'r math yma o raglen fel arfer, a mae gan Matthew dechneg ychydig yn ryfedd o chwarae y cymeriad yma fel petai rhyw wynt cas dan ei drwyn o hyd. Ond fe wnai roi cyfle iddo am ychydig o bennodau eto.

Mae gan y raglen wefan gyda bywgraffiad i'r actorion a mae un neu ddau sylw difyr yn un Matthew: "Matthew Rhys was born and raised in the historic city of Cardiff". "Rhys realized that a career in farming or in the armed forces was not for him" - sôn am random.

cowbois califfornia

Dwi allan yn LA, sydd ddim cweit yn y 'gorllewin gwyllt' er fod llawer o'r ffilmiau cowbois ac indians wedi ffilmio yng Nghaliffornia. Fe es i barti ar y thema honno wythnos diwetha, mewn gwisg cowboi a Stetson binc!

Mae fy amser yn brin a'r hyn oeddwn i am ysgrifennu oedd mod i wedi gwylio 'Cowbois ac Injans' ar wefan band-llydan S4C pnawn 'ma. Dwi ddim yn siwr be i feddwl am hwn, wnes i ddim chwerthin llawer mae'n wir ond mae rheswm pwysicach i'w wylio - mae Geraint Todd nôl ar ein sgrîn eto (neu ar sgrîn fy Mac) a hwre am hynny!

Dwi eisiau cynnwys llun fan hyn ond dwi ddim yn gallu cymryd captures o'r llif fideo. Mae Geraint yn edrych mor rhywiol ac erioed, er dwi ddim yn siwr fod y siwt las yn ei siwtio (syr). Ac ydw i'n iawn i feddwl ei fod wedi gwynnu ei ddannedd i ryw arlliw Vita ultra-white hynod annaturiol?

nofio am aur

Yn ôl hyfforddwr nofio cenedlaethol Awstralia mi ddylai David Davies fod yn arwr cenedlaethol yng Nghymru. Wel rydyn ni'n gwybod hyn ers tipyn ond nawr ei fod wedi ennill medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad, gobeithio fydd ei broffil yn codi cryn dipyn. Llongyfarchiadau iddo a gobeithio y bydd ei yrfa yn mynd o nerth i nerth.

Os ydych chi eisiau gweld mwy o David, mi fydd rhaglen ddogfen amdano yn cael ei ddangos nos Sul ar S4C, yn ei ddilyn dros y misoedd yn arwain fyny at y gemau yn Melbourne. Cofiwch wylio felly... nos Sul, Mawrth 26 am 21:00.

y bêl hirgron

Dy'n ni ddim yn deall rygbi (yma yn y byd hyfryd hynny yw, ac ydyn rydyn ni wedi dechrau siarad am ein hunain yn y trydydd person. Pa mor ymhongar ydyn ni? Teyrnged o fath i Russell T. Davies a mi fyddwch chi'n gwybod am be dwi'n sôn os ydych chi wedi gwrando ar sylwadau'r cynhyrchwyr sydd ar DVD Doctor Who. Gawn ni gau'r cromfachau yma nawr? Iawn.), ond rydyn ni'n gwybod pryd i dalu sylw i'r gêm ryfedd honno.

A'r adeg i dalu sylw yw pan mae talent ifanc ffres yn dod fewn i'r gêm wrth gwrs. Wel mae'n gwneud y gwylio gymaint yn fwy pleserus ondiwe? Ry'n ni wedi sôn am Gavin Henson o'r blaen ond fe gyhoeddodd Mike Ruddock (ryw fath o hyfforddwr yw e ni'n credu) heddiw y garfan ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Yn wir, rydyn ni wedi cyffroi wrth ddefnyddio yr holl derminoleg rygbi cymleth yma - bron ein bod ni'n arbennigwyr nawr!

Un o'r bois newydd yn y garfan sydd wedi dal ein sylw yw Gareth Delve a mae'n amlwg fod gan Ruddock (y drefn arferol yn y sefyllfa yma yw defnyddio'r cyfenw ni'n credu) yr un farn:


Delve is catching the eye at the moment and it is nice to be able to call on someone of his quality

Rhaid i ni gytuno'n hollol (o berspectif gwahanol) ac efallai fydd Gavin yn gorfod cystadlu am ein sylw o hyn ymlaen. Dyma gymhariaeth rhwng Gavin a Gareth:

  1. Enw yn dechrau gyda'r lythyren G? Check!
  2. Ganwyd yn 1982? Check! (ganwyd Delve o fewn un diwrnod i ddiwedd y flwyddyn)
  3. Gwallt sbeici tywyll? Check!
  4. Gwyneb golygus ond anarferol? Check! (sdim syniad da ni beth yw tras Gavin ond mae Gareth yn hanner tsieinïaidd)
  5. Lliw haul ffug? O na, mae Gareth yn colli fan hyn. Ond dweud y gwir, mae'n well gennym yr olwg naturiol, mae mynd dros ben llestri gyda'r lliw haul mor 2005 ondiwe.
  6. Cariad enwog a chyfoethog? Wel sdim syniad ganddon ni am fywyd preifat Gareth ond falle fod hynny am y gorau.

Cwpl o ffeithiau arall am Gareth... mae'n foi mawr - 1.91m (neu 6 troedfedd 3 modfedd os ydych chi dal yn y canol oesoedd) a 115kg. Mae yna lun reit neis ohono ar tudalen ei broffil yn Nglwb Rygbi Bath, ond dyma lun arall ohono yn gwenu'n ddel. Ry'n ni nawr yn edrych ymlaen i'w weld ar y cae!

dr huw?

Mae Huw Edwards yn eicon hoyw mae'n debyg, ers iddo ddod yn gyfarwydd i gynulleidfa Brydeinig ar raglenni newyddion. Dyma wefan gan rywun sy'n ffan mawr o Huw a hyd yn oed wedi cynllunio sioe newydd iddo - Doctor Huw. Syniad da i BBC Cymru os fydd David Tennant eisiau rhoi'r gorau iddi?

mr cynhyrchydd

Wnes i ymweld a gwefan newydd Mr Producer heddiw, sef cwmni gwneud sbloets Stifyn Parri. Ac wrth edrych ar y dudalen gysylltu welais i lun hogyn del - Kieron. Neis. Sgwn i pam fod Stifyn wedi ei gyflogi fe 'te?

adduned blwyddyn newydd

Blwyddyn Newydd Dda! Dwi wedi cael llu o negeseuon (wel un i ddweud y gwir) i ofyn pam nad ydw i'n blogio'n amlach. Felly adduned i 2006 fydd trio cofio sgrifennu fwy fan hyn. Ond cofiwch, ansawdd nid nifer sy'n cyfri - mae yna ddigon o rwtsh ar rhai o'r blogiau Cymraeg 'ma heb i fi ychwanegu atynt.

Sut flwyddyn oedd 2005 i fi? Wel wnes i ffeindio swydd ddiddorol, symud i Lundain, syrthio mewn cariad, ymuno a phrosiect D5 a dysgu sut i gadw cyfrinach. Flwyddyn yma dwi'n gobeithio fydd hi'n bosib symud nôl i Gymru neu dianc o grafangau amser yn llwyr os yw'r cynllun mawr am weithio...