wawffactori

Mi wnes i wylio ychydig o sioe dalent S4C 'Wawffactor' heno. Mi roeddwn i'n ysu i newid y sianel yn eitha cloi - doedd dim byd yn fy nenu a nghadw i wylio. Mae'r rhaglen yma yn gopï amlwg o raglenni tebyg yn Saesneg wrth gwrs ond mae rhaglenni talent yn hen ffurf sy'n cael eu ail-greu ymhob cenehedlaeth.

Nawr rhaid dweud mod i wedi bod yn ffan o rai rhaglenni o'r math yma, ond roedd yn well gen i Fame Academy na Pop Idol am fod cyfle i weld dawn y perfformwyr tu ôl y llwyfan a nid jyst canu am 3 munud.

Ond i ddychwelyd i'r fersiwn Gymraeg... Mae cynhyrchiad y sioe yn ddigon proffesiynol ond dwi ddim yn deall pam fod Aled Haydn-Jones ar y panel. O leia fe ellir dweud fod gan Owen Powell a Peredur ap Gwynedd brofiad helaeth o'r byd pop, er nad ydw i'n ymwybodol fod ganddynt profiad fel rheolwyr. Dwi'n deall fod y panel i gyd yn ifanc a deniadol i'r gynulleidfa ond does dim yr un dyfnder yn eu sylwadau a sydd gan y beirnaid hynach, mwy profiadol sydd ar y rhaglenni Saesneg.

Ychydig yn arwynebol yw teimlad y rhaglen, a mae sylwadau y panel ychydig yn gyfyngedig oherwydd y ffaith fod Cymru mor fach a rhaid peidio bod rhy gâs. Fe wnaeth un merch heno glôd am ei llais er ei bod wedi methu taro'r nodyn cywir unwaith allan o bob bump. Felly nid yw'r perfformwyr bob tro yn cael y feirniadaeth onest mae nhw'n eu haeddu. Does dim angen creu Seimon Cowal Cymreig ond mae'n well i fod yn onest nag i lyfu tîn nag yw?

Pwynt arall werth ei nodi yw lle mae'r bechgyn? Mae'n demtasiwn dweud fod Cymru dal yn hen-ffasiwn a fod ein diwylliant rhy 'macho' fel nad yw bechgyn yn gallu teimlo'n hyderus yn y fath amgylchedd. Ond dyw hyn ddim mor wir a hynny, gan fod digon o fechgyn yn cymryd rhan mewn cystadlaethau canu a dawnsio yn yr eisteddfodau.

Os yw bachgen yn dangos diddordeb mewn canu, mae'n bosib fod yna bwysau i ddilyn llwybrau 'addas' fel canu mewn côr, canu eisteddfodol (canu gwerin yn aml iawn) neu fynd i ysgol gerdd. Hefyd wrth gwrs mae bechgyn ifanc yn llawer mwy cyffyrddus yn canu mewn band roc neu phop. Felly mae yna amryw o resymau am wn i pam nad oes fwy o fechgyn wedi ceisio fel canwr pop unigol ar sioe o'r math yma.

Mi wnaeth nifer o fechgyn drio yn y clyweliadau mae'n amlwg, ond nid oeddent yn ddigon da. Allan o'r 20 person aeth i rownd derfynol cystadleuaeth Wawffactor, dim ond 4 oedd yn fechgyn a fe aethon nhw allan o'r gystadleuaeth yn reit gynnar. O sylwadau y beirniaid, mae'n edrych fel tase'r dalent lleisiol yno ond ddim y dechneg perfformio a'r hyder - symptom falle o ddiffyg hyfforddiant a chefnogaeth i fechgyn sydd eisiau canu ond ddim yn dod o draddodiad eisteddfodol.

O edrych ar y rhai sydd ar ôl yn y gystadleuaeth, dyw hi ddim yn rhy anodd gweld y bydd yr ennillydd yn ferch blonde arall sydd yn gallu canu'n 'neis' ond ddim yn cynnig unrhyw beth unigryw. Fy hun.. dwi'n gobeithio wneith Rebecca Trehearn fynd a'r wobr.

poeth ar y trên

Mae'r trên adre o'r gwaith bob tro yn llawn dop, ond mae bob tro yn gyfle da i gael golwg agos ar rai o'r myfyrwyr sydd o gwmpas (ydw dwi'n fas, nid fel gitâr, ond dyna un o bwrpasau y blog 'ma..).

Roedd un boi heddiw yn sefyll yn y rhodfa yng nghanol y trên - mae'r drysau ar bob pen. Ond roedd eisiau ymadael yn yr orsaf nesaf felly roedd e'n trio gwthio ei hun heibio pawb heb greu gormod o ffys, i ddod at y drws lle o'n i'n sefyll. Wrth iddo agosáu daeth ei wyneb i'r golwg - roedd e'n gwenu, allan o embaras, a gofyn yn gwrtais i basio bob person. Yna cyrhaeddodd lle r'on i'n sefyll a gwenu arna'i. Waw! Roedd e yn edrych union fel Ryan Phillippe, ond ychydig yn fwy 'real' wrth gwrs, llai perffaith na lluniau o Ryan gyda colur a ffilter feddal ar gamera ffotograffydd.

Mi wnes i wenu nôl arno, ond cyn i mi allu ofyn (os fase gen i'r gyts) - "Wyt ti erioed wedi ystyried bod yn 'lookalike' i Ryan Phillippe"? roedd y trên wedi stopio a fe agorodd y drws a mynd allan.

tydi cariad yn strêt?

Wnes i wylio "Tydi Cariad yn Grêt" heno, sef rhaglen ar S4C i ddathlu diwrnod Santes Dwynwen. Roedd yna nifer o 'enwogion' arno yn trafod yn agored iawn eu profiadau caru a rhyw. Dwi'n credu nad oedd rhai o'r dynion yn dweud y gwir yn rhai o'i hanesion, ond does dim syrpreis fan yna.

Dda gweld hefyd fod Stifyn Parri arno i ddangos fod perthnasau hoyw yn union run fath a rhai strêt - yn dibynnu ar gariad, rhamant, onestrwydd a pethau da felna (ac yn gallu dioddef o'r un problemau hefyd). Ond mae'n biti fod Stifyn yn rhyw fath o token gay i deledu Cymraeg - lle mae'r selebs hoyw arall i gyd? Yn sicr mae mwy allan yno a dyw nhw ddim 'yn y geudy' chwaith (maddeuwch y bathiad).

Mae'r ymwybyddiaeth (neu'r dderbynniaeth) o fywyd hoyw wedi codi yn aruthrol yn Lloegr hyd yn oed yn y deg mlynedd diwethaf, yn bennaf trwy gyfrwng teledu, fel fod rhywioldeb yn cael ei blethu i mewn yn hollol naturiol i ddramau yn ogystal a bywyd preifat actorion neu gantorion.

Yr unig peth sydd gennym ni nawr yng Nghymru yw stereoteip Matt Lucas - mae e'n deall bywyd fel dyn hoyw, ond ddim fel Cymro Cymraeg hoyw yn anffodus. Sawl blwyddyn arall fydd hi'n gymryd i'r un dealltwriaeth a newid cymdeithasol ei gyflawni yn y Gymry Gymraeg ac os yna unrhyw allan yna yn trio newid pethe?

gwynt têg

Roedd hi'n ddiwrnod olaf yn y gwaith i un o'm cyd-weithwyr heddiw. Mae e'n gadael i redeg busnes un-dyn (wel.. dau ddyn falle). Gwynt têg ar ei ôl, neu wynt ar ei ôl ddylen i ddweud. Roedd e'n drewi.

Dwi'n gwybod mai blog hyfryd yw hwn i fod, ond weithiau alla'i ddim helpu fod fy ochr milain yn dod i'r golwg. Ond wir, roedd e'n bosib 'clywed' y boi ma'n dod drwy synnwyr arogl yn unig. Roedd e ychydig yn dew, nid yn anferth, ond yn ddigon mawr i chwysu fel mochyn ac erbyn diwedd y dydd roedd e'n anodd mynd i fyny ato heb grychu dy drwyn.

Doedd e ddim yn weithiwr da iawn chwaith. Roedd e'n gwneud y lleia posib er mwyn cael rhywbeth i 'weithio'. Fasen i ddim yn datgelu llawer i ddweud mai rhaglennwr oedd e, yn ysgrifennu côd gyfrifiadurol i wefannau. Nid felna ddechreuodd e gyda'r cwmni, ond fel dylunydd, ond doedd e fawr o gop ar hynny a fe wnaeth y cyfarwyddwyr creadigol ddweud 'dim diolch.. shiftwch e i'r adran dechnegol'.

Er ei fod wedi gweithio yn y rôl yma ers 4 mlynedd, doedd e heb ddysgu dim byd, a roedd e'n gwneud yr un camgymeriadau drosodd a throsodd. Mae hyn yn bennaf am ei fod yn copïo y côd o un prosiect i brosiect newydd, gyda'r holl nonsens a'r hacs yn adeiladu fyny fel tŵr o gardiau. Pam fod neb wedi ei sacio medde chi? Wel fe roedd problem gyda diffyg goruwchwyliaeth a rheolaeth ar y tîm datblygu ond mae hynny'n stori arall.

Mi fydd ei legasi gyda ni am flynyddoedd i ddod mae'n siwr, wrth i rywun arall drwsio yr holl broblemau fydd yn codi o'i waith. Felly tata a phob lwc gyda dy hobi yn adeiladu modelau Lego, o leia fydd hi ddim mor hawdd i wneud cawlach o fodel Lego r'un fath a gwnest ti gyda'r gwefannau.

bocs sioc

Mae pawb nôl yn y gwaith ar ôl y Nadolig a mae un neu ddau wedi dod a bocsys o siocled i'r gwaith - rhan o'r pentwr wnaethon nhw fethu a bwyta dros yr Ŵyl. Mae hyn yn beth peryg iawn - mae yna dŵr o focsys ar silff ynghanol y stafell a pob tro mae rhywun yn basio mae'r demtasiwn yn ormod. Fe ddiflannodd cynnwys y tin mawr Roses mewn tua dau ddiwrnod.

Heddiw, fi oedd y person olaf yn y gwaith (ar fy ochr i o'r swyddfa 'ta beth) ac wrth gloi fyny, mi wnes i daro golwg ar focs bach del, coch. Roedd rhaid cael golwg - a wedi ei agor mi wnes i gymryd llond llaw o Buttons siocled a'i sglaffio mewn un symudiad. Mi o'n i'n teimlo'n euog wedyn ond o leia wnaeth neb fy ngweld. Wnewch chi gadw fy nghyfrinach?