haleliwia

Mae'n edrych fel mai fersiwn X-factor o gân Leonard Cohen - Hallelujah, fydd yn rhif un 'prydeinig' y Nadolig hwn. Ond dim ond fersiwn gwych Brigyn sy'n cael ei chwarae yn tŷ ni. Rwy'n gobeithio cael y CD fel anrheg Nadolig ond hoffen i un o fois Brigyn yn fy sach hefyd. Dwi ddim yn siwr pa un chwaith - ydi'n beth drwg i ddweud nad ydw i'n gwybod pa un yw Ynyr a pha un yw Eurig?

Mwynhewch y gân a dyma lle gallwch chi brynu'r CD.

8/8/8

Mae'r rhif 8 yn lwcus yn ôl ofergoelion y Tseiniaid, ac ar y dyddiad uchod yr agorwyd y Gemau Olympaidd. Ond roedd hi'n lwcus i fi hefyd - fore Gwener ges i sypreis wrth fynd ar y bys a gweld Matthew Rhys a'i rieni, ar y ffordd i'r maes i gael ei urddo. Neis gweld fod ei draed dal ar y ddaear.



Ychydig yn llwm oedd hi o ran sbotio selebs ar y maes, dyw hi ddim yn argoeli'n dda pan mae rhywun yn gweld "y boi na o Bobol y Cwm" ond yn methu cofio ei enw. Dwi ddim yn gwybod lle oedden nhw'i gyd - efallai fod y ffaith fod yr Eisteddfod yng nghanol Caerdydd yn golygu fod nhw gyd wedi dianc cyn gynted a gallen nhw i dafarndai a fariau'r brifddinas.

yn fy natur

Dwi'n siwr fyddwch chi'n gwybod fod Iolo Williams yn 'icon hoyw' (mae'n od mae Iolo eu hunan sy wedi codi'r pwnc). Mae Iolo nôl mewn rhaglen newydd wych ar BBC Wales o'r enw Not in My Nature, ond mae rheswm arall i wylio'r rhaglen, am fod y ciwti Lloyd o Bontardawe arno. Os mae dyna'r math o fywyd gwyllt sydd i'w weld yn Abertawe, fydd rhaid i fi fynd ar daith bleser yno'n amlach!

danteithion y dydd

Mae'r deintydd yn le anarferol i sbotio selebs, ond dyna'n union wnaethon ni yr wythnos 'ma. Y cynta oedd un o sêr cyfres ddiweddaraf 'Ladette to Lady', y model fronnog Kely Simpson, sydd hefyd yn llwyddo cael rhyw ran o'i chorff yn y tabloids bob wythnos.

Yr ail oedd cyn-faswr Cymru, Arwel Thomas. Roedd e yno gyda'i waith yn hytrach nag i gael triniaeth. Pan oedd e'n chwarae i Gymru, roedd Arwel yn arloeswr - ie cyn Henson, Peel a neb arall, roedd gan Arwel 'ddilyniant hoyw' (o leia ymysg rhai o fyfyrwyr Aber) felly. Fe greuwyd gwefan i'w glodfori, yn llawn lluniau ohono. Mae'n biti nad ydyn ni'n gweld fwy o Arwel ac yn anffodus sdim unrhyw olion o'r wefan erbyn hyn chwaith.