nigel ar y brig


Llongyfarchiadau i'r dyfarnwr Nigel Owens am ennill personoliaeth chwaraeon y flwyddyn yng ngwobrau Stonewall neithiwr yn Llundain. Mae wedi bod yn wych i weld sut mae Nigel wedi gallu bod yn ddyn hoyw agored ym myd macho rygbi Cymru a gobeithio fydd e'n annogaeth i gael cymdeithas fwy goddefol yn y byd chwaraeon a meysydd eraill yng Nghymru.

A Nigel, os wyt ti'n darllen... ebostia os ti'n ffansi sgrym fach rhywbryd..

lawr yn mexico

Wel fe ddaeth y diwrnod mawr i Ioan ac Alice 'te, gyda'i priodas 'dawel' yn Mexico. Ni fydd yna luniau 'swyddogol' ond diolch i rywun a'i ffôn-gamera mae ganddon ni rhyw syniad o sut aeth hi.

Mae Ioan yn edrych yn smart ond dwi ddim yn gwybod pam fod e'n edrych yn grac yn y llun 'ma. Mae Alice yn edrych yn hyfryd fel arfer, gyda'i bouquet mewn un llaw a ffag a tequila yn y llall.

Ry'n ni ychydig yn siomedig nad oes unrhyw luniau o'r gweision priodas yma - Math ac Alun - ond 'na fe, rhaid disgwyl am y Wedi 7 'eglwsif'.

Mwy o luniau

y bys i'r bae

Ie, felly, y diwrnod o'r blaen wnes i dreulio amser yn ardal Parc Cathays a Neuadd y Ddinas. Ac wrth weld y bys bach yn mynd a dod, wnes i ddechrau cyfansoddi rhyw rigwm bach plentynnaidd yn fy mhen.

Ac wrth weld y stori yma heddiw, daeth e nôl i'r cof (i diwn 'olwynion ar y bys').

Mae bys y Cynulliad yn mynd ar daith,
O Barc Cathays, i lawr i'r Bae.
A wedyn mae'r bys yn dod yn ei ôl,
O Fae Caerdydd, lan i Barc Cathays.

Mae bys y Cynulliad yn mynd rownd a rownd,
rownd a rownd, rownd a rownd.
Mae bys y Cynulliad yn mynd o Gathays,
I lawr i'r Bae, reit drwy y dydd.

Mae'r gweision sifil yn mynd ar daith,
O si-pi-tw i'r Senedd-dy,
Mae bys y Cynulliad yn enghraifft gwych,
o arian cyhoeddus, o ein harian ni.

Mae bys y Cynulliad yn mynd ar daith,
I lawr i'r Bae, a nol i'r dre.
Mae bys y Cynulliad yn mynd ar daith,
Rownd a rownd mae'n mynd o hyd.

Mae gyrrwr y bys yn ddiflas iawn,
Yn mynd rownd a rownd, a rownd a rownd.
Mae'r bys yn wag, ond mae'n dal i fynd,
Rownd a rownd, rhwng y Bae a'r dre.

danfael

O'n i lawr yng Nghaerdydd echddoe, ar fusnes. Tra'n sefyllian yn ardal Parc Cathays weles i fy hoff actor, Daniel Evans yn cerdded o gyfeiriad y Coleg Cerdd a Drama (fy hoff actor heblaw Matthew Rhys wrth gwrs, ond mae Dan yn fwy o ddyn theatr, felly rhaid gwahaniaethu rhwng fy hoff actor theatr/ffilm a teledu).

Roedd e'n foel a barfog - fel mae e wedi bod ers sbel - ddim cweit i safon Dogfael eto ond mae e ar y ffordd.

Ar y chwith mae Daniel yn dangos y wobr Laurence Olivier a ennillodd am yr actor gorau yn gynharach eleni.



Dyw e ddim yn cuddio'r ffaith ei fod yn colli'i wallt, sy'n beth da, ond dwi'n hiraethu am ei wallt. Dwi'n cofio bod yng nghefn capel adeg Eisteddfod Cwm Rhymni yn gwylio rhyw ddrama gyda Daniel a nifer eraill aeth mlaen i enwogrwydd (neu ddim). Es i i'r ty bach yn yr egwyl a roedd rhaid cerdded drwy'r festri, lle roedd y cast yn hanner porcyn yn newid eu gwisgoedd.

Ond am y gwallt.. wel i gloi dyma llun pert o Daniel yng nghynhyrchiad y Theatr Genedlaethol (Lloegr) o Peter Pan, gyda Ian McKellen. Gwalltgo!

cyfweliad math

Yn parhau fy obsesiwn gyda Matthew Rhys, dyma gyfweliad gyda fe yn trafod ei rôl yn nrama ABC, Brothers and Sisters. 'na gyd.