danteithion y dydd

Mae'r deintydd yn le anarferol i sbotio selebs, ond dyna'n union wnaethon ni yr wythnos 'ma. Y cynta oedd un o sêr cyfres ddiweddaraf 'Ladette to Lady', y model fronnog Kely Simpson, sydd hefyd yn llwyddo cael rhyw ran o'i chorff yn y tabloids bob wythnos.

Yr ail oedd cyn-faswr Cymru, Arwel Thomas. Roedd e yno gyda'i waith yn hytrach nag i gael triniaeth. Pan oedd e'n chwarae i Gymru, roedd Arwel yn arloeswr - ie cyn Henson, Peel a neb arall, roedd gan Arwel 'ddilyniant hoyw' (o leia ymysg rhai o fyfyrwyr Aber) felly. Fe greuwyd gwefan i'w glodfori, yn llawn lluniau ohono. Mae'n biti nad ydyn ni'n gweld fwy o Arwel ac yn anffodus sdim unrhyw olion o'r wefan erbyn hyn chwaith.