wedi 9 y bore

Dwi'n eistedd yma wrth i'r dydd ddechrau ac yn gwylio Wedi 7 ar y we, nôl yng Nghymru lle mae'n nosi (ond gwylio rhaglenni wythnos diwetha dwi'n wneud). Nid fod Wedi 7 yn rhoi rhyw ddarlun cywir o be sy'n mynd mlaen yng Nghymru, ond fe ddysges i ddau beth diddorol o sioe dydd Mercher dwetha.

Yn gynta, fod Berwyn Rowlands (sydd a'i fys mewn bach o bopeth yn y byd ffilm) wedi lansio gwobr Iris ar gyfer ffilmiau hoyw. Os dwi dal yma haf nesa, dwi'n gobeithio mynd i gŵyl ffilmiau Outcast yma yn LA, fydd yn gysylltiedig a'r wobr newydd yma mae'n debyg.

Roedd y dyfarnwr rygbi Nigel Owens yn y stiwdio ar yr un rhaglen a felly fe gafwyd sgwrs fyr iawn am y ffaith ei fod e yn ddyn hoyw sy'n gweithio yn y byd rygbi. Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn hoyw i ddweud y gwir ac ar ôl gwglo mae'n debyg mai blwyddyn dwetha daeth e mas, felly llongyfarchiadau iddo fe.

Mi fydde wedi bod yn ddiddorol cael trafodaeth bach yn hirach gyda fe am ei brofiad ond efallai mai rhyw sylw ffwrdd-a-hi ar ddiwedd y rhaglen oedd y ffordd orau oedd i gyflwyno hyn.

No comments: