cowbois califfornia

Dwi allan yn LA, sydd ddim cweit yn y 'gorllewin gwyllt' er fod llawer o'r ffilmiau cowbois ac indians wedi ffilmio yng Nghaliffornia. Fe es i barti ar y thema honno wythnos diwetha, mewn gwisg cowboi a Stetson binc!

Mae fy amser yn brin a'r hyn oeddwn i am ysgrifennu oedd mod i wedi gwylio 'Cowbois ac Injans' ar wefan band-llydan S4C pnawn 'ma. Dwi ddim yn siwr be i feddwl am hwn, wnes i ddim chwerthin llawer mae'n wir ond mae rheswm pwysicach i'w wylio - mae Geraint Todd nôl ar ein sgrîn eto (neu ar sgrîn fy Mac) a hwre am hynny!

Dwi eisiau cynnwys llun fan hyn ond dwi ddim yn gallu cymryd captures o'r llif fideo. Mae Geraint yn edrych mor rhywiol ac erioed, er dwi ddim yn siwr fod y siwt las yn ei siwtio (syr). Ac ydw i'n iawn i feddwl ei fod wedi gwynnu ei ddannedd i ryw arlliw Vita ultra-white hynod annaturiol?

2 comments:

Nwdls said...

Croeso nôl! Mi fu'n rhy hir!

Gai holi beth wyt ti'n gwneud yn LA?

hyfryd said...

Diolch Rhodri. Rhaid cyfadde mod i'n byw ar arian rhywun arall ar hyn o bryd. Mae'n nghariad i yn Americanwr sydd yn y busnes ffasiwn a cyn-fodel, a dwi wedi symud i fyw yma.

Ond dwi'n trio talu fy ffordd drwy weini a ychydig o waith modelu tra mod i'n penderfynu be i wneud gyda fy mywyd! Dwi'n trio cadw hwn yn weddol anhysbys ond efallai fyddai'n son ychydig am yr hanes yn y dyfodol.