gwobrau olivier

Fel soniais i fis dwetha, fe gafodd Iwan Rheon ac Aneurin Barnard ei henwebu ar gyfer gwobr Olivier. Mae'n wych i glywed fod y ddau wedi ennill! Llongyfarchiadau iddyn nhw a wnawn ni weld cyfweliad ar Wedi 7 fory siwr o fod?

mr hollywood

Pan welais i raglen yn cael ei gyflwyno gan Matthew Rhys am 'Mr Hollywood', o'n i'n dechrau poeni fod y llwyddiant wedi mynd i'w ben. Er ei fod yn eich atgoffa ar ôl bob egwyl ei fod e'n actor yn Hollywood nid amdano fe oedd y rhaglen ond am hanes anhygoel Griffith Jenkins Griffith oedd yn Gymro wnaeth ei farc yn LA ar ddechrau'r 20fed ganrif. Mae'r rhaglen ar y we am y 30 diwrnod nesa.

Tra bod ni'n sôn am Math, dyma flog Jaci Stephen yn gwamalu am ei bywyd yn L.A. - y gêm yw cyfri sawl enw sy'n cael ei grybwyll. Fe wnaeth Jaci dreulio hanner ei gyrfa yn adolygu teledu i'r Daily Fail ond fe gafodd hi rhyw greisis yn 50 oed a nawr mae hi'n trio ei 'gwneud hi' yn L.A. fel sgwennwr sgriptiau (mae ei blog hi yn reit ddoniol os allwch chi ei stumogi, gyda llaw).

pigion 17/02/2010

I ddechrau dyma gyfweliad gyda Matthew Rhys a Luke McFarlane o Brothers and Sisters. Dwi ddim wedi gwylio'r sioe yna ers tipyn am mod i wedi colli diddordeb ond mae'n cadw Math mewn gwaith o hyd.

Fe wnaeth Aneurin Barnard a Iwan Rheon yn dda iawn yng ngwobrau What's On Stage, yn cystadlu yn erbyn actorion llawer mwy enwog a phrofiadol. Mae'r ddau wedi eu henwebu hefyd yng ngwobrau Olivier 2010, eto yn erbyn actorion profiadol, felly mae'n gamp i wneud hynny yn eu perfformiadau cyntaf ar lwyfannau'r West End.

Mae'r stori am y ffan rygbi wnaeth ddiosg ei gilt yn fyw ar y teledu wedi cyrraedd gwefan NBC Sports. Mae'r fideo i'w weld yma (nes i YouTube ei dynnu lawer eto) - gormod o ffys dros rhywbeth mor fach.

daniel evans

Ni'n ffans o Dan ar y blog yma ac yn dilyn ei yrfa gyda diddordeb. Ers llynedd mae e wedi bod yn gyfarwyddwyr creadigol yn theatrau Sheffield. Roedd erthygl ddiddorol yn y Times yn ddiweddar am ei swydd newydd.

pigion 01/02

Ers dod allan, mae Gareth Thomas wedi bod yn rhedeg o gwmpas yn siarad a phawb a phopeth ynglŷn a'i rywioldeb (fydd ddim yn gwneud lles i'w honiad gwreiddiol fod e'n 'amherthnasol' a fod e jyst eisiau cael ei adnabod fel chwaraewr rygbi). Mae e nawr yn noddwr i Fis Hanes LGBT sy'n cymeryd lle yn ystod mis Chwefror.

Mae'r actor Iwan Rheon wedi bod yn brysur yr wythnos ddiwethaf gyda ymddangosiadau teledu. Fe wnaeth criw Misfits ymddangos ar sioe Jonathan Ross nos Wener lle wnaeth y cyflwynydd hir walltog twp benderfynu cam-yngau yr enw Iwan fel 'jôc'. Roedd Iwan ei hun yn reit dawel ond efallai roedd hynny mewn cyferbyniad i weddill y cast oedd yn ddiawled bach or-hyderus a siaradus.

Ar y dydd Sul wedyn, roedd Iwan ar Uned 5 mewn un o'r cyfweliadau lletchwith hynny mae rhywun yn ddisgwyl ar teledu plant rhad, gyda cyflwynydd hyper a whoops moronig gan y llond llaw o griw tu ôl y camera. Felly dyma hi cyfweliad Uned 5, a chyfweliad Wossy isod.

ddim yn siarad saesneg

Dyma Iwan Rheon yn cael bach o sbort tra'n ffilmio Misfits!


americano

Fe wnaeth Ram Shergill o gylchgrawn 'Drama' gymryd cyfres o luniau gwych o Aneurin Barnard. Dyma gwpl i chi gael blas ohonyn nhw ac os ydych chi am weld mwy ewch draw i edrych drwy rifyn 3. Mae'n werth edrych drwy'r holl beth ond mae lluniau Aneurin ar dudalen 67.