taith i'r tywyllwch

Ar ôl mis, dwi newydd ddychwelyd o daith rhyfedda' mywyd. Tua blwyddyn yn ôl fe wnes i weld hysbyseb ar wefan (ond dwi ddim yn cofio'n lle). Mi roedd yr hysbyseb yn dangos yr un neges syml mewn sawl iaith a beth wnaeth ddal fy llygad i oedd fod yna fersiwn Cymraeg - "Beth yw D5?". Ar ôl clicio ar yr hysbyseb fe aeth a fi i wefan syml arall gyda holiadur. Doedd dim sôn am ennill gwobr neu gyfrannu gwybodaeth farchnata o unrhyw fath, a roedd hynny yn gwneud i mi eisiau llenwi'r holiadur i weld beth fase'n digwydd. Y cwestiwn cynta oedd pa iaith i'w ddefnyddio a mi oedd fersiwn Cymraeg ar gael felly dewisais i hynny yn naturiol.

Fe roedd y cyfieithiad Cymraeg yn annealladwy, fel tase wedi cael ei gyfieithu gan gyfrifiadur. Felly es i nôl i'r fersiwn Saesneg a dechrau ateb yr holiadur, gyda cwestiynau fel "pa cylchgronau ydych yn ei ddarllen?"; "ydych chi'n hoffi teithio?"; "beth yw eich breuddwydion?". Alla'i ddim cofio mwy ond y cwestiwn olaf oedd "yn eich tyb chi, beth yw D5?". Mi wnes i falu awyr am rywbeth ynglyn a dyfais chwyldroadol newydd i deithio o gwmpas (mae'n rhaid mod i'n meddwl am y cwestiwn am deithio a chysylltiadau gyda'r C5, dyfais Clive Sinclair). Efallai fod yr holiadur yn trio darganfod y llefydd gorau i hysbysebu'r ddyfais newydd, beth bynnag oedd e.

Ar ddiwedd yr holiadur roedden nhw'n gofyn am enw ac ebost gyda'r posibiliad y bydd rhywun yn cysylltu yn y dyfodol. Mi wnes i roi enw ffug a chyfeiriad ebost cudd sydd gen i yn union ar gyfer y math yma o bwrpas. Ar ôl danfon yr holiadur roeddwn i'n disgwyl yn eiddgar i gael ebost am tua pythefnos ond wnes i anghofio yn eitha buan.

Yna tua dwy fis yn ôl yn hollol annisgwyl fe ges i ebost yn holi mwy o gwestiynau. Roeddwn ychydig yn betrus am ymateb a fe wnes i drio ymchwilio i bwy ddanfonodd y peth ond fe roedd y neges wedi ei ddanfon drwy wasanaeth anhysbys. Wnes i barhau i ddefnyddio fy ffugenw ond ateb y cwestiynau yn onest. Roedd y cwestiynau newydd yn fwy tebyg i gyfweliad swydd.. beth oedd fy nghymwysterau addysgol a sgiliau ychwanegol.. oeddwn i'n dda yn gweithio mewn tîm.. oeddwn i'n hapus i weithio oriau anghymdeithasol..

Fel mae'n digwydd dwi wedi cael profiad o "head hunter" ar fy ôl o'r blaen ond roedd hyn yn rhywbeth gwahanol iawn. Mae'n mynd yn hwyr nawr ond wnai barhau hyn mewn cofnod arall mor fuan a phosib.