pam fi

Mi roedd y gyfres ddrama i bobl ifanc "Pam Fi Duw?" yn ddadleuol am nifer o resymau, am ei bortread realistig, di-gyfaddawd o fywydau pobl ifanc yng nghymoedd y De - y bratiaith, y cyffuriau a'r rhyw. Er hynny fe roedd hi'n gyfres lwyddiannus iawn i S4C gan ddenu dilyniant brwd gan gynulleidfa ifanc ac un hollol anghenrheidiol i'r sianel.

Yna yn 2001, gyda cyfres arall yn barod i'w darlledu, fe gododd honiadau yn erbyn crëwr ac awdur y gyfres, John Owen, cyhuddiadau o gam-drin rhywiol gan yr athro drama yn erbyn rhai o'i gyn-ddisgyblion yn ysgol Rhydfelen. Fe gafwyd hyd iddo'n farw ym mis Hydref 2001, a fe gafwyd ymchwiliad llawn i'r cyhuddiadau gan Gomisiynydd Plant Cymru. Mae'r gyfres olaf yma o "Pam Fi Duw?" dal yn archifau S4C heb ei ddarlledu.

Dwi ddim am drafod hynny ymhellach fan hyn - nid yw hi'n bosib esguso ei ymddygiad bersonol chwaith, ond dwi'n meddwl fod rhaid cydnabod fod John Owen wedi trafod pynciau pwysig yn y cyfresi deledu lle nad oedd neb wedi mentro o'r blaen a prin iawn fod neb wedi mentro ers hynny.

Roedd y rhaglen yn cynnwys cymeriad ifanc 'Ifs' yn dod i dermau a'i rywioldeb - dwi'n eitha siwr mae hwn oedd y portread cyntaf o fachgen hoyw (oed ysgol) ar deledu Cymraeg, er fod rhaglenni seisnig wedi gwneud hynny ers rhai blynyddoedd.

Dwi'n siwr fod Ifs wedi bod gymorth i nifer o fechgyn ifanc allu gwynebu trafod ei rhywioldeb gyda ffrindiau neu deulu. A mi roedd yn dipyn o eilun hefyd gan ei fod mor ddel! Roedd hi'n beth eitha dewr i actor ifanc ymgymryd a'r rôl yma felly rhaid diolch i Geraint Todd am chwarae'r rhan a gwneud y cymeriad mor hoffus.

A mae hyn i gyd yn ffordd hir o ddweud mod i wedi darganfod gwefan Geraint. Yn ogystal a bywgraffiad a'i CV mae yma nifer o luniau o safon uchel - diolch yn fawr! Mae un o'r lluniau yma yn gefndir ar sgrîn fy nghyfrifiadur yn barod ond rwy'n gobeithio gweld Geraint ar sgrîn fy nheledu eto'n fuan.

adolygiad wedi 7

Rhifyn camp iawn o Wedi 7 heno - wel mae e bob noson gyda Angharad 'Autocue' Mair wrth y llyw, ond roedd heno yn sbesial. Fe roedd y cyflwynwyr tywydd achlysurol, Aled Hughes, ar y soffa yn cael sgwrs am ei waith gyda Asiantaeth yr Amgylchedd yn ogystal a chyflwyno'r tywydd ar S4C (dewch nôl a Jeni!). Roedd Aled ychydig yn nerfus a dyw dull 'cyfweld' Angie ddim llawer o help ond boi lyfli chware teg.

Dangoswyd eitem byr cyn hynny am y grefft o gyflwyno'r tywydd gyda mwy o gyflwynwyr campus fel Siân Lloyd (does dim dianc rhagddi) a Derek Brockway! Fe ddarllenodd Derek ei gyfraniad yn Gymraeg.. mae'n dda gweld fod y gwersi'n llwyddo. Ond aethon nhw ddim am y gamp lawn fel petai a chyfweld Dilwyn Young-Jones, tedi bêr hyfryd a chyflwynydd gwych AitshTV cyn i'r cwmni gael ei lyncu i fwystil ITV.

Wedyn cafwyd eitem di-bwynt ynglyn a 'Harri Wêls', sef y tywysog twatlyd sydd nawr yn dechrau ei gwrs yn Sandhurst. Mae'n debyg mae'r unig reswm am yr eitem yma oedd fod y tîm cynhyrchu wedi darganfod Cymro Cymraeg oedd wedi graddio o Sandhurst, felly cyfle arall i lyfu Tîn-opolis y teulu brenhinol.

Yna daeth cyfweliad gweddol ddi-bwynt arall gyda Stuart o Ddyffryn Cellwen yn esgus yfed coctels ('na sbort!) gyda Heledd. Fe wnaeth Stuart (nid yr unig ddyn hoyw yn y pentre fel mae'n troi mas) ymddangos ar raglen 'The Real Little Britain' fel enghraifft go-iawn o'r cymeriad Daffyd. Mi ddangoswyd y rhaglen fisoedd yn ôl ar deledu digidol ond mae'n debyg ei fod nawr wedi ei ddangos ar deledu pobl dlawd.

Doedd dim tebygrwydd rhwng Stuart a Daffyd mewn ffordd... mae yna lawer o fechgyn merchetaidd tew (gormod o faldod a losins gan Mami) yn cael ei magu mewn pentrefi cefn gwlad ond mae rhan fwyaf ohonynt yn gadael yn reit sydyn am y dinasoedd, lle mae 'na bobl sydd a fetish am flab (rhyfedd..). A fel Stuart, mae nhw'n gwario ei arian ar ddillad a gwallt ffasiynol ond mae nhw dal yn dew. Sori.

Y 'jôc' (dim ond un) am Daffyd yw fod e'n aros yn ei gynefin ac yn hapus am ei fod yn unigryw, felly rhaid iddo warchod ei sefyllfa fel yr unig bwff yn y pentre.

Ond nôl at y 'Little Britain' Gwir (neu gay?), fe gododd tipyn o stŵr ynglyn a'r rhaglen pan aeth hi allan yn wreiddiol - fe enwodd Stuart un o'i athrawon ysgol gan ddweud iddo cael crush arno a doedd yr athro ddim yn hapus. Mae'n anodd gwybod beth i'w ddweud am hynny... mae'n drist fod hyn yn gallu creu gymaint o drafferth i athro ond mae'n dangos faint sydd i fynd cyn newid agwedd cymdeithas tuag at rywioldeb.