wedi saith ar flaen y gad

O na, dim neges arall am Wedi 7! Ie, flin am hynny. Ond wel, dwi newydd edrych ar rhaglen 'heddiw' (neithiwr i chi yng Nghymru) a reit ar y diwedd wnaeth Angharad sôn am beth fydd ar y sioe wythnos nesa, yn cynnwys 'lansio Wedi 7 ar Myspace'.

"Pam?" oedd fy nghwestiwn cynta. Er mwyn neidio ar bandwagon arall siwr o fod. Dwi'n deall pam fod bandiau tlawd neu blant 15 oed yn creu tudalennau (erchyll) ar MySpace, ond dwi ddim yn deall pam fod cwmniau teledu/ffilmiau eisiau gwneud hynny pan mae ganddyn nhw wefan ei hunan, yn enwedig pan fod ganddyn nhw y sgiliau i wneud gwefan sy'n gweithio ac yn edrych yn well na MySpace.

Mae'n rhan siwr o fod o'r dull 'marchnata' newydd, ond mae e ychydig bach fel sticio flyer ar bolyn lamp yn lle prynu hysbyseb ar fwrdd mawr.

Ychydig wedyn, wnes i feddwl... sgwn i os ganddyn nhw dudalen yn barod? Felly wnes i edrych am y cyfeiriad amlwg - www.myspace.com/wedi7 - a mae yna rhywun wedi ei gymryd yn barod! Mewn ffordd mae hyn yn dangos ffolineb defnyddio MySpace fel gwefan - mae'n hawdd i ffugio tudalen ar gyfer pobl neu gwmniau arall. Dwi'n edrych mlaen felly i weld lle fydd tudalen 'swyddogol' Wedi 7 yn ymddangos.

(Mewn newyddion arall.. dwi wedi symud i Blogger Beta felly dwi'n gobeithio na fydd hwn wedi torri unrhywbeth).

wedi 9 y bore

Dwi'n eistedd yma wrth i'r dydd ddechrau ac yn gwylio Wedi 7 ar y we, nôl yng Nghymru lle mae'n nosi (ond gwylio rhaglenni wythnos diwetha dwi'n wneud). Nid fod Wedi 7 yn rhoi rhyw ddarlun cywir o be sy'n mynd mlaen yng Nghymru, ond fe ddysges i ddau beth diddorol o sioe dydd Mercher dwetha.

Yn gynta, fod Berwyn Rowlands (sydd a'i fys mewn bach o bopeth yn y byd ffilm) wedi lansio gwobr Iris ar gyfer ffilmiau hoyw. Os dwi dal yma haf nesa, dwi'n gobeithio mynd i gŵyl ffilmiau Outcast yma yn LA, fydd yn gysylltiedig a'r wobr newydd yma mae'n debyg.

Roedd y dyfarnwr rygbi Nigel Owens yn y stiwdio ar yr un rhaglen a felly fe gafwyd sgwrs fyr iawn am y ffaith ei fod e yn ddyn hoyw sy'n gweithio yn y byd rygbi. Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn hoyw i ddweud y gwir ac ar ôl gwglo mae'n debyg mai blwyddyn dwetha daeth e mas, felly llongyfarchiadau iddo fe.

Mi fydde wedi bod yn ddiddorol cael trafodaeth bach yn hirach gyda fe am ei brofiad ond efallai mai rhyw sylw ffwrdd-a-hi ar ddiwedd y rhaglen oedd y ffordd orau oedd i gyflwyno hyn.