gwynt yn y gwifrau

Dwi wedi bod yn gwrando ar albym newydd Patrick Wolf - Wind In The Wires, sydd yn hyfryd iawn mewn nifer o ffyrdd. Roeddwn i wrth fy modd gyda Lycanthropy a mae'n dda gweld fod y safon yn parhau. Dyma'r math o gerddoriaeth pop sydd yn brin iawn dyddie 'ma, gyda deallusrwydd a dyfnder tu ôl i'r geiriau yn ogystal a melodïau cofiadwy. Felly dyna un reswm da dros brynu'r CD, ond gan mod i'n berson arwynebol, sut allwn ni i wrthod rhywun sy'n ein pryfocio gyda llun fel hyn?

y ffasiwn beth

Mae yna gyfres ddifyr iawn ar S4C ar hyn o bryd - Gareth a Wil - yn dilyn gyrfa dau Gymro yn y byd modelu. Yn ogystal a bod yn hyfryd i'w gwylio, mae'r ddau i'w weld yn fois neis iawn a'i traed ar y ddaear. Mae'n amlwg fod y ddau wedi gorfod newid ei personoliaeth cryn dipyn i ffitio fewn i'r byd high-camp yma, a mae eu hacenion wrth siarad Saesneg wedi newid i'r acen Llundeinig arferol. Er hynny mae'n edrych fel fod y ddau yn gwrthod cyfaddawdu gormod - Wil mewn un golygfa yn trio cael ei berswadio gan un asiant i gael ei ddannedd wedi ei 'drwsio' ac yn eitha grac am y peth ar ôl iddo ddod allan o'r swyddfa.

Bywyd byr sydd gan fodel, a dyna pam mae gymaint a'u bryd ar drio gyrfa ym myd actio neu cerddoriaeth. Beth bynnag ewn nhw ymlaen i wneud mi fydd yn ddiddorol gweld sut y bydd gyrfa y ddau yma'n datblygu yn y dyfodol.

meddwl yn bositif

Rhaid llongyfarch yr aelod seneddol Chris Smith am ddatgan ei fod wedi bod yn HIV+ am 17 mlynedd. Mae'n beth od i ddefnyddio'r gair 'llongyfarch', ond beth dwi'n feddwl yw fod Mr Smith wedi bod yn esiampl i lawer o bobl am sut i fyw bywyd yn onest - mi fyddai'n well byd petai pawb ym mywyd cyhoeddus yn gallu bod mor agored ag e. Rwy'n nabod rhywun a gyd-weithiodd gydag e am gyfnod a'r hanes oedd ei fod yn 'berson clên' yn ogystal a fod yn wleidydd deallus a egwyddorol.

Mae'n dangos hefyd nad yw'r feirws HIV yn golygu marwolaeth buan i'r rhai sydd ddigon lwcus i fod yn y byd gorllewinol cyfoethog, er ei fod yn cael effaith ddiymwad ar fywyd unrhyw un. I'r trueiniaid yn y trydydd byd mae'r feirws yn gallu bod yn ddedfryd i farwolaeth wrth gwrs a hyn yn bennaf am nad yw'r gwledydd hynny'n gallu fforddio prisiau'r cyffuriau (a rhaid i rai o lywodraethau gwledydd Affrica gymryd peth o'r bai hefyd am ei diffyg cefnogaeth). Mae'n dda gweld Nelson Mandela yn ffigwr amlwg i drio newid y sefyllfa ond mae'n mynd gymryd ymdrech fawr.

Mae Andy Bell o Erasure hefyd wedi sôn yn ddiweddar ei fod yn HIV+ ers 6 mlynedd. Mae'n anodd gwybod sut effaith gall y fath ddatganiadau gael ar y cyhoedd - ar un llaw mae'n bwysig i godi ymwybyddiaeth mewn oes lle fod y 'perygl' mawr wedi diflannu a'r gwir beryg nawr yw fod pobl ifanc yn enwedig yn dechrau credu eto na fase nhw byth yn dal afiechydion rhywiol.

Ar y llaw arall, ydi'r datganiadau cyhoeddus yma'n helpu codi ymwybyddiaeth neu oes yna apathi cyffredinol? Er fod angen addysgu'r cyhoedd yn gyffredinol ac yn gyson, mae'n amlwg hefyd fod yna ddiffyg cyfathrebu i'r gymuned hoyw. Mae'r ffigyrau yn dangos fod cynnydd wedi bod yn yr heintiadau yn y 4 mlynedd diwethaf ac yn enwedig ymysg dynion hoyw a phobl sydd wedi dod yma o neu sydd a chysylltiadau i Affrica. Gweler y datganiad gwasg yma ddoe gan y Terrence Higgins Trust.

very annie mary

Neithiwr fe wyliais i'r ffilm Very Annie Mary ar Channel 4 - dyma'r tro cyntaf iddo gael ei ddangos ar deledu daearol dwi'n credu (mae e wedi ei ddangos ar Film Four o'r blaen gan mai nhw a'i arianodd mewn rhan).

Ffilm yn saesneg yw hi am ferch o'r cymoedd yn ymdopi a'r sefyllfa lle mae ei thad (sy'n rhedeg siop fara'r pentre) yn cael strôc - mae hyn yn creu cyfle iddi oresgyn gorthrwm ei thâd a sefyll ar ei thraed ei hun am y tro cynta.

Wedi gwylio'r ffilm eto, rhaid i mi ddweud wnes i fwynhau - roedd y sgript, y cyfarwyddo a'r actio i gyd o safon uchel ond eto roedd rhywbeth yn fy mhoeni drwy'r ffilm. Fe ddewiswyd dau actor 'enwog' (Jonathan Pryce fel Jack Pugh y pobydd bara a Rachel Griffiths fel ei ferch, Annie Mary). Mae Pryce yn Gymro ac yn gallu defnyddio acen addas os nad un sy'n hollol gywir i'r ardal - i ddweud y gwir roedd ei acen yn gweddu i'w gymeriad cas. Roedd Griffiths (sydd o Awstralia) fodd bynnag wedi methu'n llwyr i feistroli'r acen a roedd hyn yn chwithig iawn i'w glywed yn ei golygfeydd hi drwy'r ffilm.

Weithiau roedd hi'n cael un ymadrodd wedi'i acennu'n berffaith ond ar adegau eraill roedd hi'n troi'n americanaidd ar ganol brawddeg. Roedd hyn hyd yn oed yn waeth oherwydd y cyferbyniad gyda rhai o'r actorion Cymreig yn y ffilm oedd yn siarad gyda acenion hollol naturiol.

Mae'n debyg fod 'angen' denu actorion enwog er mwyn sicrhau nawdd a gwerthiant i ffilm, ond dyw hyn ddim yn help os fod hynny'n effeithio ar hygrededd y ffilm. Mae'n bosib na fyddai hyn i gyd yn poeni unrhyw un sydd ddim o Gymru, am na fyddai'r acen yn chwithig i'w clust nhw.

Gwerth nodi hefyd fod ymddangosiad yma gan Matthew Rhys a Ioan Gruffudd fel dau ddyn hoyw sy'n rhedeg siop leol. Mae'r golygfeydd yma yn edrych i mi 'ta beth fel rhai sydd wedi ei sgrifennu mewn er mwyn cynnig rôl i ddau actor oedd (ar y pryd) yn poster-boys ar gyfer talent actio Gymreig.

Dwi ddim yn credu fod y peth yn gweithio yn anffodus. A fyddai dau ddyn hoyw yn eu hugeiniau cynnar yn byw a gweithio mewn siop, mewn cymuned fach yn y cymoedd? Mi fyddai'n fwy realistig gweld dau ddyn llawer hynach. Peth arall od yw fod y ddau actor wedi mynd am yr un stereoteip camp - acen ferchetaidd, lot o chwifio dwylo ayyb. Mae yna fwy i gymeriadu dyn hoyw na gwisgo crys gwyn yn dynn, Ioan! Eto, mi fyddai'n llawer mwy realistig gweld un dyn sydd yn fwy 'bwtsh' a'r llall yn ferchetaidd ac ychydig yn ifancach. Mae yna steroteip fan yna hefyd dwi'n gwybod ond mae'n agosach at y gwir.

Ond peth bach yw hyn yn nghyd-destun y ffilm - rhywbeth dwi'n meddwl sy' ddim yn ffitio i'r portreadu craff sydd yn nghweddill y ffilm. Dwi'n credu fod Ioan a Matthew wedi disgrifio'r ffilmio fel 'bach o hwyl' a dyna yw e... dim byd difrifol.

Mae yna lawer iawn i'w fwynhau yn y ffilm, yn cynnwys cameos gan lawer o wynebau annisgwyl fel Ray Gravelle, Glan Davies a Maureen Rees (y fenyw sy'n beryg bywyd mewn car). Mae'n werth gwylio'r ffilm os allwch chi beidio gwingo gormod ar acen y prif gymeriad.

saesneg4cymraeg

Tra'n chwilio Google am rywbeth arall wnes i ddod ar draws y tudalennau yma o 1999 sy'n disgrifio hanes y gwrthwynebiad gan Gylch yr Iaith i'r seisnigeiddio cynyddol o Radio Cymru a S4C. Dwi ddim yn gwybod beth ddigwyddodd i'r ymgyrch ar ôl yr achosion llys gwreiddiol ond fase'n ddiddorol gwybod beth oedd y canlyniad - a newidiodd unrhywbeth?

Mae'n gwestiwn werth gofyn am fod hwn dal yn bwnc llosg, 6 mlynedd yn ddiweddarach, lle mae'r cyfryngau Cymraeg yn hapus i hyrwyddo diwylliant eingl-americanaidd ar draul y diwylliant sydd yn gyfrifol am eu bodolaeth.

nid yr unig un ...

Mae criw Little Britain wedi recordio sgets yn arbennig i Comic Relief, fydd yn cynnal y diwrnod 'trwynau coch' nesaf ar Fawrth 11. Mi fydd dau berson enwog yn galw mewn yn y dafarn yn Llanddewi-Brefi, rhywun o'r enw George Michael a ryw foi arall o'r enw Elton John. Sut y fydd Daffyd (ei camsillafad nhw, nid y fi) yn esbonio wedyn mae fe yw'r unig bwff yn y pentre?

Mi fydd yr actores Gymreig Ruth Jones, yn cymryd rhan yn y sgets hefyd - hi sy'n chwarae rhan 'Myfanwy' (y fenyw tu ôl y bar yn nhafarn 'Daffyd'). Cyn dechrau'r ffilmio daeth George Michael fyny ati i ofyn am ei llofnod a fe'i synnwyd gan y ffaith fod rhywun mor enwog yn gwybod pwy oedd hi!

Mae'r gyfres wedi bob yn boblogaidd iawn a wedi cael llawer o heip, ond a ydyn ni wedi cyfnewid un stereoteip o Gymru am un arall? Er ei fod yn hoyw, does gan Matt Lucas ddim profiad o Gymru a dyw ei acen Gymraeg ddim yn dda iawn chwaith. Mae syniad y sgets o'r gyfres wreiddiol yn un da, ond dyw'r joc ddim yn mynd yn ddoniolach wrth ei ail-adrodd dro ar ôl tro. Mae yna well deunydd comedi mewn dilyn cymeriad trwy stori - mae angen dilyniant a symud y stori ymlaen i sefyllfaoedd newydd.

Er fod llawer o pobl o Gymru yn gweithio ar raglenni comedi saesneg, nid nhw sy'n sgrifennu'r sgriptiau. Un o bwrpasau comedi yw dangos yr ochr ddoniol o unrhyw sefyllfa a fe all hyn olygu defnyddio stereoteip neu gymeriad dros-ben-llestri, ond mae'n rhaid eich bod yn gwybod eich pwnc yn drylwyr cyn creu dychan ohono. Felly dy'n ni ddim yn cael adlewyrchiad cywir o Gymru mewn comedi seisnig ei iaith, nac ychwaith golwg ddychanol sy'n ddigon treiddgar a perthnasol.

Mae comedi Cymraeg ei hiaith mewn sefyllfa hyd yn oed yn fwy truenus, ond mae hynny yn stori am ddiwrnod arall.