liza fach

Dwi newydd wylio Liza Minelli ar sioe y 'Perfformiad Amrywiol Brenhinol' a mi roedd fel gwylio damwain car mewn slo-mo. Roedd ganddi'r egni anhygoel nodweddiadol a roedd hi'n neidio o gwmpas y llwyfan fel ffŵl, ond doedd ei llais ddim yn gallu cyfateb i'r egni. Yn ei phen efallai, roedd hi'n canu fel yr oedd hi yn ei 30au ond i'r gwylwyr roedd e fel gwrando ar iâr yn cael ei grogi.

Roedd yn drasiedi ei gweld hi'n trio ail-fyw ei llwyddiant cynnar ond ai dyma pam ei bod hi'n gymaint o icon? Mae hi wedi brwydro trwy lawer yn ei bywyd ac yn dal i roi y gorau ohoni' hunan pan yn perfformio. Dim cwyno na strancio fel y gall rhai o'r perfformwyr ifanc heddiw ei wneud - dim ond ymroddiad llwyr i'w chrefft hyd yn oed os nad yw hi mor wefreiddiol ac yr oedd hi'n gallu bod.

Efallai mai y drasiedi o'i bywyd sydd yn apelgar, gweld rhywun yn dringo nôl ar ôl suddo i ddyfnderoedd bywyd, ac efallai mai dyna pam ei bod yn dal i fod yn berfformwraig hyfryd. Ond dwi'n credu fod pob perfformiwr yn haeddu ymddeol cyn mynd yn chwerthinllyd a thrist - gwell i pob icon cael ei cofio pan oeddent ar ei gorau, felly pob hwyl Liza a gadewch i ni eich cofio drwy wrando ar y recordiau a gwylio'r ffilmiau ar DVD.

chavpod

Mae defnyddwyr y teclyn bondigrybwyll iPod i gyd yn bobl hip, ffasiynol yndy'n nhw? Wel erbyn hyn, falle na yw'r ateb.

Heddiw, roeddwn yn sefyll ar y trên (dim lle i eistedd, wrth gwrs) am adref ar fîn gadael yr orsaf a fe ruthrodd dau fachgen ifanc i mewn yn llawn bywyd a sŵn. Roeddent yn edrych fel dau frawd, tua 13 neu 14 oed, wedi gwisgo'r un fath mewn tracsiwt, trainers a cap pêl-fâs. Ar ôl chwarae am dipyn gyda agor a chau ddrysau'r trên, fe dawelodd y ddau wrth i'r hynaf gymryd iPod o'i boced.

Fe gymerodd y crwt hynaf un o'r ffonau clust a'i sticio yn ei glust, a fe aeth y ffôn clust arall i glust y crwt lleiaf. A dyna lle'r oedden nhw am bum munud, yn siglo'i pennau nôl a mlaen i'r gerddoriaeth, cyn yr orsaf nesaf lle wthiodd fwy o bobl mewn i'r cerbyd cyfyng. Fe'i gwahanwyd ac o na - fe gollodd y crwt ifanc ei gysylltiad fogeiliol i'r iPod a fe bwdodd am weddill y daith.

Na, does dim diweddglo i'r stori yma.

byd gwallgo

Mae'r byd mor wallgo heddiw mae'n hawdd i fynd yn ddigalon a phoeni o hyd am y Cwestiynau Mawr. Er mwyn osgoi hyn i gyd dwi am ddechrau blog ar gyfer y byd hyfryd. Mi fyddai'n edrych ar ochr ysgafn bywyd, pethau dibwys hyd yn oed, unrhywbeth difyr neu doniol. Rwy am gynnwys cymysgedd o sylwadau personol ar fywyd a chysylltiadau i lefydd eraill ar y we. Dyna ni'r cyflwyniad, ymlaen a'r sioe.