gareth thomas

Llongyfarchiadau i cyn-gapten tîm rygbi Cymru, Gareth Thomas am ddod allan heddiw. Rwy'n poeni ychydig am ei fod wedi gwneud hynny yn y Daily Mail - dwi ddim yn deall pam dewis y papur arbennig hwnnw (sydd yn nodedig am argraffu yr erthygl hynod homoffobig am Stephen Gately).

Mi rydyn ni'n bell oddi yno ar hyn o bryd ond gobeithio rhyw ddydd na fydd hi'n destun newyddion fod chwaraewr rygbi (neu unrhyw berson arall yn myd chwaraeon) yn hoyw.

pigion 9/12

Mae Derek Brockway wedi bod yn dysgu Cymraeg yn ddiwyd ers rhai blynyddoedd, a mae e nawr wedi dechrau sgrifennu llyfrau Cymraeg i blant. Dwi wedi cael copi o'i lyfr cynta - Sblash gyda Fflap a Seren a fydd e'n anrheg dolig bach handi i fy nith dwi'n meddwl.

Os ydych chi'n ffan o Aneurin Barnard (pwy sy' ddim?) beth am bleidleisio iddo yng nghwobrau theatr 'WhatsOnStage'. Allwch chi bleidleisio fan hyn yn yr adran 'Best Actor in a Musical' (does dim angen i chi pleidleisio ymhob categori. Mae Rowan Atkinson ar y blaen ar hyn o bryd ond Aneurin yn ail haeddiannol.

pigion 16/11

Fe gyhoeddodd Nigel Owens ei hunangofiant yn Gymraeg llynedd a nawr mae fersiwn Saesneg wedi ei gyhoeddi. Rhywbeth i lenwi eich hosan dolig 'falle.

Roedd yna eitem bach diddorol yn y Guardian am waith Daniel Evans fel cyfarwyddwr artistig newydd y 'Sheffield Theatres'.

Ac yn ola' dyma dudalen gwe od iawn gyda cyflwynwyr Wedi 3 yn meimio i gân 'Fame'.

pigion

Yn ôl y DJ Chris Needs mae e wedi derbyn bygythiadau gan rai pobl yng Nghymru oherwydd ei rywioldeb. Mae'n drist i glywed hynny er ychydig yn anodd i gredu. Mae'r stori yma yn codi drwy gyd-ddigwyddiad pan fod Chris yn lansio ail rhan ei hunan-gofiant.

Ar drywydd gwahanol mae'r calendrau 'noeth' bob amser yn ffordd poblogaidd i godi arian a mae un newydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer elusen Tŷ Gobaith. Mi fydd yn cynnwys llun o'r canwr Mark Evans (hwre) a Stifyn Parri (ooooce).

Yn anffodus dyw'r lluniau ddim ar y we, ond mae hyn yn esgus i ni bostio cwpl o luniau perthnasol o Mark:




cofio gyda john davies

Dwi newydd sylwi fod y rhaglen Cofio wedi bod yn cyfweld John Davies - rhaglen sy'n cyfuno hen glipiau o'r archif a cyfweliad yn stiwdio. Yn ogystal a sôn am ei fagwraeth a'i waith academaidd mae e hefyd yn sôn am ei rywioldeb. Fe wnaeth e gyfweliad emosiynol gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar pan benderfynodd 'dod allan' yn gyhoeddus.

Nid yn unig mae John Bwlchllan yn arwr am ein dysgu am hanes Cymru, mae'n arwr am allu siarad yn onest am ei rywioldeb hefyd a gobeithio addysgu rhai o'i cyd-Gymry. Os ydych chi tu allan i Gymru, gallwch chi wylio y rhaglen ar S4/Clic.

pobol y cwm a gwobr stonewall

Mae Pobol y Cwm wedi ei enwebu yng nghwobrau Stonewall eleni ar gyfer eu portread o gymeriadau hoyw fel Iolo a Gwyneth. Mi fydd rhaglen Wedi 7 yn darlledu yn fyw o'r gwobrau ar nos Iau. Fydd hi'n rhy gynnar yn y bore fan i'w wylio'n fyw felly dwi'n edrych ymlaen i weld y rhaglen bore fory ar Clic.

misfits

Dwi newydd ddarllen am y ddrama newydd ar E4 - Misfits. Un o'r prif actorion yn y gyfres yw Iwan Rheon (gynt o Pobol y Cwm a Spring Awakening). O'n i'n ffan o Skins er nad oeddwn i'n rhan o'r farchnad darged, a mae'r gyfres yma yn edrych yn eitha diddorol.

tipyn o drag

Dyma hysbys i ffilm annibynnol 'A Very British Cover-Up' am gystadleuaeth brenhinesau 'drag'. Mae'r cast yn cynnwys Gareth David-Lloyd o Torchwood a mae cameo diddorol gan Colin Charvis. Mae'r ffilm wedi ei ddangos mewn rhai llefydd fel Caerdydd yn barod ond dwi ddim yn gwybod lle arall fydd cyfle - bosib mai disgwyl am DVD fydda i.

iolo (nid yr un gyda shorts byr)

Dwi wedi bod yn gweithio tu allan i Gymru ers misoedd nawr a ddim wedi bod yn cadw lan gyda Pobol y Cwm. Felly dwi wedi colli dyfodiad y cymeriad hoyw newydd Iolo. Mae PyC wedi cynnwys nifer o gymeriadau hoyw yn y gorffennol chwarae teg ond falle wedi cadw at bortreadau fwy ystrydebol neu 'saff'.

Mae Iolo yn berson ifanc a golygus a mae hyn wedi denu sylw y bobl ar y fforwm 'Gays of Daytime' sy'n dilyn pobl hoyw mewn operau sebon ar draws y byd.

A mae rhywun wedi mynd i'r drafferth i roi cyfres o glipiau o Iolo ar YouTube. Ffordd hawdd o ddal fyny gyda'r stori felly!

'Doedd dim llawer o groeso i PyC yn Lloegr ond mae'n amlwg fod cynulleidfa parod ar gael yng nghweddill y byd.


geraint owen

Roedd yn flin iawn gen i glywed am farwolaeth sydyn Geraint Owen, actor dwi'n gofio fel Rod ar Pobol y Cwm. Mae'n wir i ddweud fod gen i ychydig o crush arno yn fy arddegau ar adeg lle nad oedd llawer o wynebau golygus ar S4C.

'Does dim syndod chwaith ei fod wedi cael ei ystyried ar gyfer rôl James Bond, nid ar chwarae bach mae hynny yn digwydd.

Pob cydymdeimlad i'w deulu.

deffroad y gwanwyn

O edrych allan y ffenest ar hyn o bryd, mae'n edrych yn bell o fod yn Wanwyn, ond be sydd gen i dan sylw yw'r sioe gerdd 'Spring Awakening' sydd ymlaen yn y West End o Chwefror 3ydd.

Mae dau actor o Gymru yn y ddrama, sef Iwan Rheon (pert) ac Aneurin Barnard (golygus). Mae yna wefan bach da i'r ddrama, lle gallwch chi weld fideos o'r broses castio ac yr ymarferion.





Efallai y fyddwch chi'n cofio Aneurin yn cymeryd rhan yng Nghân i Gymru rhai blynyddoedd yn ôl pan wnaeth y cyflwynydd resynu nad oedd o ychydig yn hynach (h.y. yn gyfreithiol). Fe aeth e ymlaen i ryw fath o yrfa gerddorol byr-hoedlog, ac yn ffefryn ar y rhaglen bop i plant - Popty, lle wnaeth e gyfweliad shocking mewn Scymraeg. 'Ta waeth, fyddech chi ddim yn cico fe mas o'r gwely am speako a bit of sisneg, fydde chi?

Mae Iwan wrth gwrs yn adnabyddus o chwarae'r cymeriad Macs ar Pobol y Cwm fel (sydd nawr yn cael ei actio gan ryw imposter). Mae 'e wedi bod yn gwneud ei farc hefyd ers graddio yn 2007.

(mi fydd eitem ar hyn ar Wedi 7 wythnos yma... stori am selebs Cymraeg yn Llunden fowr? Mae nhw yna! Edrych ymlaen i weld Aneurin yn siarad 'Cymraeg' eto).