gwobrau olivier

Fel soniais i fis dwetha, fe gafodd Iwan Rheon ac Aneurin Barnard ei henwebu ar gyfer gwobr Olivier. Mae'n wych i glywed fod y ddau wedi ennill! Llongyfarchiadau iddyn nhw a wnawn ni weld cyfweliad ar Wedi 7 fory siwr o fod?

mr hollywood

Pan welais i raglen yn cael ei gyflwyno gan Matthew Rhys am 'Mr Hollywood', o'n i'n dechrau poeni fod y llwyddiant wedi mynd i'w ben. Er ei fod yn eich atgoffa ar ôl bob egwyl ei fod e'n actor yn Hollywood nid amdano fe oedd y rhaglen ond am hanes anhygoel Griffith Jenkins Griffith oedd yn Gymro wnaeth ei farc yn LA ar ddechrau'r 20fed ganrif. Mae'r rhaglen ar y we am y 30 diwrnod nesa.

Tra bod ni'n sôn am Math, dyma flog Jaci Stephen yn gwamalu am ei bywyd yn L.A. - y gêm yw cyfri sawl enw sy'n cael ei grybwyll. Fe wnaeth Jaci dreulio hanner ei gyrfa yn adolygu teledu i'r Daily Fail ond fe gafodd hi rhyw greisis yn 50 oed a nawr mae hi'n trio ei 'gwneud hi' yn L.A. fel sgwennwr sgriptiau (mae ei blog hi yn reit ddoniol os allwch chi ei stumogi, gyda llaw).