cymorth

Mae comedi newydd Paul Whitehouse - Help - yn mynd o nerth i nerth (BBC2, 9.30pm, dydd Sul). Mae'r gyfres yn dangos amryw o bobl (i gyd wedi eu cymeriadu gan Whitehouse) yn cael sesiwn therapi gyda'r seiciatrydd Peter (Chris Langham).

Dyma'r math o raglen sy'n atgoffa rhywun beth yw comedi da a safonol. Mae'r deialog yn ardderchog a mae pob cymeriad wedi ei lunio yn ofalus, gyda 'stori gefndir' sy'n raddol ymddangos drwy gydol y gyfres. Y perygl gyda un person yn chwarae nifer o gymeriadau yw fod pob un yn rhy debyg i'w gilydd ond gyda'r gwynebau rwber prosthetig a'r colur mae cymeriadau unigryw wedi eu creu yma - yn wir mae'n anodd adnabod Whitehouse yn rhai o'r gwynebau.

Dwi'n credu fod Paul Whitehouse yn un o'r actorion/sgrifennwyr hynny sydd ddim wedi ei werthfawrogi ddigon, efallai am nad yw'n chwarae'r gêm showbiz. Mae'n amlwg hefyd ei fod yn falch o'i Gymreictod - mae yna gymeriad o gymoedd De Cymru yn Help, ac am unwaith mae yna gymeriad Cymreig credadwy yng nghomedi Saesneg.

hiwmor cymreig

Mae na gyfle wedi bod ers blynyddoedd i gomedïwyr, ysgrifennwyr, diddanwyr a dychanwyr o bob oed i ddangos eu talent ar y we. Erbyn hyn mae'n siwr fod y dechnoleg wedi symleiddio gymaint fel nad oes angen gradd mewn cyfrifiaduraeth ar rywun i allu gynhyrchu a chyhoeddi eu cynnyrch yn weddol rhwydd.

Dwi ddim wedi gweld yr un blog fideo yn Gymraeg eto ond dyma un yn Saesneg gan Gymro o Ddinbych. William Huw yw'r boi sy'n perfformio hiwmor ty bach (yn llythrennol) gyda "Blog from the Bog" yn ei gymeriad Elfed Welshbloke. Difyr iawn!

Mi fase'n dda gweld tyfiant yn y math yma o beth yn 2005 - dwi'n gwybod fod yna bobl ddifyr, doniol a deallus yng Nghymru sy'n diddori eu ffrindiau lawr y dafarn - gobeithio fydd rhai o'r 'cymêrs' yma yn dechrau arbrofi drwy blogiau fideo, straeon neu ganeuon. Cyflym bobl, cyn i'r bobl teledu ddarganfod fod yna ffynhonnell rhad iawn yma o raglenni digidol.

Clipiau fideo:
1. The Only...
2. I'd rather...

poenydio as

Mae gan y BBC stori heddiw ynglyn a dyn yn poenydio ei aelod seneddol a wedi cael ei wahardd rhag mynd o fewn 100 metr iddo. Chwarae teg i Chris Bryant am fynd a'r achos i'r llys, ond dwi ddim yn siwr am gymeriad y boi Bryant yma... os ydych yn cofio, fe bostiodd llun o'i hun yn ei bans mewn proffil ar wefan Gaydar. Nawr sdim byd yn bod ar hynny ond os oeddech chi'n aelod seneddol na fasech chi'n meddwl cyn rhoi y fath lun sy'n dangos eich wyneb yn glir ar wefan lled-gyhoeddus?