y nofiwr

Dwi ddim yn gwybod pam dwi'n cyfeirio at y WoS gymaint, mae'n llawn rwtsh, ond rwtsh diddorol weithiau. Yn y rhifyn diwethaf roedd llun neis iawn o'r nofiwr David Davies o Gaerdydd, sef un o'r rhesymau pennaf am fy niddordeb yng ngemau Olympaidd 2004 yn Athens. Wel, fasen i wedi bod yn gwylio beth bynnag ond roedd presenoldeb David yn gymhelliad cryfach o lawer!

Gan fod Blogger nawr yn cynnig gofod i bostio lluniau dwi am arbrofi gyda ychydig o luniau sydd wedi eu cymeryd o'r sesiwn tynnu lluniau diweddara (cliciwch y llun i ddangos y fersiwn llawn, er fod dyfrnod arnynt yn anffodus):

my name.. is greg dyke

Erthygl arall yn y WoS ddoe oedd dyfynniadau o Greg Dyke yn trafod y gyfres newydd wych o Dr. Who. Mae'n dweud fod y gyfres wedi ei leoli ormod ar y Ddaear a hyd yn oed yn waeth, yng Nghaerdydd! Mae gen i barch at y Bnr Dyke am ei waith yn y BBC ond sôn am golli'r pwynt. Mi roedd lleoli'r gyfres ar y ddaear yn hanfodol er mwyn creu'r stori am y Daleks yn trio dinistrio dynoliaeth a hefyd yn ffordd o ddenu cenhedlaeth newydd o wylwyr i'r gyfres.

Mi roedd Greg Dyke dal yn Gyfarwyddwyr Cyffredinol y BBC pan gomisiynwyd y gyfres felly sdim pwynt iddo gwyno nawr os yw'n credu fod y gyfres wedi'i wneud yn 'rhad'. Yn yr hen gyfres roedd y Doctor yn dychwelyd dro ar ôl tro i Lundain ac i leoliadau ffilmio 'rhad' iawn. Fe gafodd y gwylwyr gwerth ei arian gyda'r gyfres yma fasen i'n dweud.

Yn anffodus mae'n edrych fel fod surni (haeddiannol siwr o fod) tuag at y BBC wedi lliwio barn Dyke yn yr achos yma. Nawr fod y gyfres yn llwyddiant fe fydd y cyfle yn sicr i ymestyn y storiau i arall-fydoedd yn bell o'r Ddaear a dwi'n edrych ymlaen i'r ddau gyfres nesaf i fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol na'r un diweddaraf.

davin beckson

Mae yna erthygl yn y Wales on Sunday ddoe gyda'r pun mwyaf ofnadwy - "Gav's caught my gays". Mae'n debyg fod David Beckham wedi cwyno (gyda'i dafod yn ei foch gobeithio) am Gavin Henson yn 'dwyn' eu ffans hoyw. Wel sdim angen cweryla nag oes.. mae yna le i'r ddau (fase'n ffantasi fach neis gweld y ddau gyda'i gilydd?)

Mae'n wir fod Gav yn apelio at rai ond dwi'n cofio ffrind i fi yn obsesd a Arwel Thomas rhai blynyddoedd yn ôl, a mae Dwayne Peel yn eitha ciwti hefyd.

Yn amlwg, dyw y chwaraewyr modern fel Gavin ddim yn rhy swil o ddangos ei gorff, felly alla'i ddim credu fod neb wedi meddwl am greu calendr noeth fel mae bois rygbi Ffrainc yn ei wneud bob blwyddyn (a mae yna DVD hefyd yn dangos creu'r calendr sy'n werth ei gael!). Ydi'r WRU yn sefydliad rhy macho i'r fath beth tybed?

al mae'n urdd camp

Oedd roedd hi'n noson penigamp yng Nghanolfan y Mileniwm ar nos Fawrth yn gwylio'r cynhyrchiad o 'Les Misérables'. Roedd yn gamp yn wir i'r perfformwyr ifanc gynnal sioe o'r safon yma ond yn gyntaf camp y gynulleidfa...

Fe gafwyd cystadleuaeth rhwng Deiniol Wyn Rees a Aled Pedrick am yr outfit mwya camp. Deiniol enillodd o hyd trwyn mewn top bach pinc - fe aeth Aled am y delwedd mwy bwtsh i ddangos ei fysls. Roedd Cefin Roberts yno yn dawel yn y cefndir ond doedd dim golwg o Stifyn Parri, neu fase hi wedi bod yn ffwl hows.

At y perfformiad ei hun felly - fe gafwyd problemau technegol di-ben-draw: y meicroffonau yn torri allan neu ddim yn cael ei troi ffwrdd wedi i rywun adael y llwyfan (fe 'grashodd' y ddesg reoli sain mae'n debyg); y goleuadau ychydig yn hwyr i newid ar adegau a'r newid setiau braidd yn drwsgwl. Y dilema yw - a ddylid beirniadu'r cynhyrchiad fel y fase rhywun yn beirniadu sioe West End broffesiynol?

Mae'n ddyletswydd sôn am rhai o'r ffaeladdau ond 'dyw hi ddim yn deg beirniadu gormod am nifer o resymau - roedd hwn yn gynhyrchiad amatur yn ei hanfod wedi ei lwyfannu gan ddisgyblion ysgol mewn theatr fawr odidog. Prin iawn oedd yr amser gafodd y cast i ymarfer sioe mor hir a doedd absenoldeb y cyfarwyddwr cerdd o rai ymarferion ddim yn helpu rhyw lawer.

Er gwaetha'r problemau fe gafwyd perfformiad hyderus gan brif aelodau'r cast. Roedd lleisiau un neu ddau yn fregus ar adegau wrth fynd am y nodau uchel, ond efallai fod yr achlysur wedi creu fwy o nerfusrwydd nag oedd yn amlwg ar yr wyneb. Roedd yr hanner cyntaf yn rhy hir, neu i weld yn rhy hir - dwi ddim yn cofio mwynhau nac yn cofio unrhywbeth o'r tri-chwarter awr cyntaf.

Yna daeth perfformiadau llawn hiwmor i godi'r ysbryd gan Sion Ifan a Siriol Dafydd (Thenardier a'i wraig) ac o hynny ymlaen fe ddechreuais i fwynhau. Yn yr ail ran, roedd cyfle i unigolion neu barau ganu gyda'i gilydd mewn ffordd effeithiol iawn a fe gyfranodd lleisiau'r ensemble i greu sŵn pwerus ar gyfer rhai o'r caneuon mwy adnabyddus.

Ro'n i'n eistedd wrth y blaen a roedd y cyfuniad o'r gerddorfa a'r lleisiau i gyd yn creu sain anhygoel yn enwedig ar ddiwedd y perfformiad, a chreu adwaith emosiynol yn y gynulleidfa. Digon o emosiwn i godi pawb ar eu traed i gymeradwyo ar y diwedd - a pham lai? Un peth sylwes i - doedd dim arwydd o lawenydd neu ryddhad ar wynebau'r perfformwyr - ond roedden nhw'n cymryd y peth yn ddifrifol ac roedd rhaid canolbwynto ar un encore bach cyflym cyn i'r llenni ddisgyn. Roedd y rhan fwyaf o'r perfformwyr yn hamddenol iawn yn dod allan i'r cyntedd nes ymlaen - pro's go iawn!

Roedd hi'n noson hir iawn - fe ddechreuwyd bron hanner yn awr yn hwyr a roedd yr egwyl yn ddwywaith yr amser arferol am fod angen ail-brofi'r offer sain (cofiwch bois os ydych yn gwneud soundcheck yng nghlyw cynulleidfa Gymraeg - peidiwch rhifo'n Saesneg!). Ond wnes i fwynhau yn fawr 'ta beth a dwi'n siwr fod y profiad yn un amhrisiadwy i'r perfformwyr a'r criw tu ôl y llenni.

Mi fase'n grêt gallu mynd i weld fwy o gynhyrchiadau Cymraeg yn yr Armadillo - diwedd y gân yw'r geiniog fel arfer a mae pawb yn gwybod pwy sydd yn dal llinyn y pwrs..