al mae'n urdd camp

Oedd roedd hi'n noson penigamp yng Nghanolfan y Mileniwm ar nos Fawrth yn gwylio'r cynhyrchiad o 'Les Misérables'. Roedd yn gamp yn wir i'r perfformwyr ifanc gynnal sioe o'r safon yma ond yn gyntaf camp y gynulleidfa...

Fe gafwyd cystadleuaeth rhwng Deiniol Wyn Rees a Aled Pedrick am yr outfit mwya camp. Deiniol enillodd o hyd trwyn mewn top bach pinc - fe aeth Aled am y delwedd mwy bwtsh i ddangos ei fysls. Roedd Cefin Roberts yno yn dawel yn y cefndir ond doedd dim golwg o Stifyn Parri, neu fase hi wedi bod yn ffwl hows.

At y perfformiad ei hun felly - fe gafwyd problemau technegol di-ben-draw: y meicroffonau yn torri allan neu ddim yn cael ei troi ffwrdd wedi i rywun adael y llwyfan (fe 'grashodd' y ddesg reoli sain mae'n debyg); y goleuadau ychydig yn hwyr i newid ar adegau a'r newid setiau braidd yn drwsgwl. Y dilema yw - a ddylid beirniadu'r cynhyrchiad fel y fase rhywun yn beirniadu sioe West End broffesiynol?

Mae'n ddyletswydd sôn am rhai o'r ffaeladdau ond 'dyw hi ddim yn deg beirniadu gormod am nifer o resymau - roedd hwn yn gynhyrchiad amatur yn ei hanfod wedi ei lwyfannu gan ddisgyblion ysgol mewn theatr fawr odidog. Prin iawn oedd yr amser gafodd y cast i ymarfer sioe mor hir a doedd absenoldeb y cyfarwyddwr cerdd o rai ymarferion ddim yn helpu rhyw lawer.

Er gwaetha'r problemau fe gafwyd perfformiad hyderus gan brif aelodau'r cast. Roedd lleisiau un neu ddau yn fregus ar adegau wrth fynd am y nodau uchel, ond efallai fod yr achlysur wedi creu fwy o nerfusrwydd nag oedd yn amlwg ar yr wyneb. Roedd yr hanner cyntaf yn rhy hir, neu i weld yn rhy hir - dwi ddim yn cofio mwynhau nac yn cofio unrhywbeth o'r tri-chwarter awr cyntaf.

Yna daeth perfformiadau llawn hiwmor i godi'r ysbryd gan Sion Ifan a Siriol Dafydd (Thenardier a'i wraig) ac o hynny ymlaen fe ddechreuais i fwynhau. Yn yr ail ran, roedd cyfle i unigolion neu barau ganu gyda'i gilydd mewn ffordd effeithiol iawn a fe gyfranodd lleisiau'r ensemble i greu sŵn pwerus ar gyfer rhai o'r caneuon mwy adnabyddus.

Ro'n i'n eistedd wrth y blaen a roedd y cyfuniad o'r gerddorfa a'r lleisiau i gyd yn creu sain anhygoel yn enwedig ar ddiwedd y perfformiad, a chreu adwaith emosiynol yn y gynulleidfa. Digon o emosiwn i godi pawb ar eu traed i gymeradwyo ar y diwedd - a pham lai? Un peth sylwes i - doedd dim arwydd o lawenydd neu ryddhad ar wynebau'r perfformwyr - ond roedden nhw'n cymryd y peth yn ddifrifol ac roedd rhaid canolbwynto ar un encore bach cyflym cyn i'r llenni ddisgyn. Roedd y rhan fwyaf o'r perfformwyr yn hamddenol iawn yn dod allan i'r cyntedd nes ymlaen - pro's go iawn!

Roedd hi'n noson hir iawn - fe ddechreuwyd bron hanner yn awr yn hwyr a roedd yr egwyl yn ddwywaith yr amser arferol am fod angen ail-brofi'r offer sain (cofiwch bois os ydych yn gwneud soundcheck yng nghlyw cynulleidfa Gymraeg - peidiwch rhifo'n Saesneg!). Ond wnes i fwynhau yn fawr 'ta beth a dwi'n siwr fod y profiad yn un amhrisiadwy i'r perfformwyr a'r criw tu ôl y llenni.

Mi fase'n grêt gallu mynd i weld fwy o gynhyrchiadau Cymraeg yn yr Armadillo - diwedd y gân yw'r geiniog fel arfer a mae pawb yn gwybod pwy sydd yn dal llinyn y pwrs..

No comments: