pam fi

Mi roedd y gyfres ddrama i bobl ifanc "Pam Fi Duw?" yn ddadleuol am nifer o resymau, am ei bortread realistig, di-gyfaddawd o fywydau pobl ifanc yng nghymoedd y De - y bratiaith, y cyffuriau a'r rhyw. Er hynny fe roedd hi'n gyfres lwyddiannus iawn i S4C gan ddenu dilyniant brwd gan gynulleidfa ifanc ac un hollol anghenrheidiol i'r sianel.

Yna yn 2001, gyda cyfres arall yn barod i'w darlledu, fe gododd honiadau yn erbyn crëwr ac awdur y gyfres, John Owen, cyhuddiadau o gam-drin rhywiol gan yr athro drama yn erbyn rhai o'i gyn-ddisgyblion yn ysgol Rhydfelen. Fe gafwyd hyd iddo'n farw ym mis Hydref 2001, a fe gafwyd ymchwiliad llawn i'r cyhuddiadau gan Gomisiynydd Plant Cymru. Mae'r gyfres olaf yma o "Pam Fi Duw?" dal yn archifau S4C heb ei ddarlledu.

Dwi ddim am drafod hynny ymhellach fan hyn - nid yw hi'n bosib esguso ei ymddygiad bersonol chwaith, ond dwi'n meddwl fod rhaid cydnabod fod John Owen wedi trafod pynciau pwysig yn y cyfresi deledu lle nad oedd neb wedi mentro o'r blaen a prin iawn fod neb wedi mentro ers hynny.

Roedd y rhaglen yn cynnwys cymeriad ifanc 'Ifs' yn dod i dermau a'i rywioldeb - dwi'n eitha siwr mae hwn oedd y portread cyntaf o fachgen hoyw (oed ysgol) ar deledu Cymraeg, er fod rhaglenni seisnig wedi gwneud hynny ers rhai blynyddoedd.

Dwi'n siwr fod Ifs wedi bod gymorth i nifer o fechgyn ifanc allu gwynebu trafod ei rhywioldeb gyda ffrindiau neu deulu. A mi roedd yn dipyn o eilun hefyd gan ei fod mor ddel! Roedd hi'n beth eitha dewr i actor ifanc ymgymryd a'r rôl yma felly rhaid diolch i Geraint Todd am chwarae'r rhan a gwneud y cymeriad mor hoffus.

A mae hyn i gyd yn ffordd hir o ddweud mod i wedi darganfod gwefan Geraint. Yn ogystal a bywgraffiad a'i CV mae yma nifer o luniau o safon uchel - diolch yn fawr! Mae un o'r lluniau yma yn gefndir ar sgrîn fy nghyfrifiadur yn barod ond rwy'n gobeithio gweld Geraint ar sgrîn fy nheledu eto'n fuan.

1 comment:

Bratiaith said...

Peth drist yn wir ydy'r modd y collon ni'r gwaith arbennig a wnaeth John Owen o achos ei ymddygiad bradychus a ffiaidd.

Roedd y rhaglen yn bropoganda gwych i hybu'r iaith yn y dde, ac i sbarduno parch tuag at ddiwylliant llenyddol Cymraeg. Roedd bratiaith y cymeriadau'n naturiol, ond roedd ganddyn nhw ymrwymiad i wella eu hunain.