hiwmor cymreig

Mae na gyfle wedi bod ers blynyddoedd i gomedïwyr, ysgrifennwyr, diddanwyr a dychanwyr o bob oed i ddangos eu talent ar y we. Erbyn hyn mae'n siwr fod y dechnoleg wedi symleiddio gymaint fel nad oes angen gradd mewn cyfrifiaduraeth ar rywun i allu gynhyrchu a chyhoeddi eu cynnyrch yn weddol rhwydd.

Dwi ddim wedi gweld yr un blog fideo yn Gymraeg eto ond dyma un yn Saesneg gan Gymro o Ddinbych. William Huw yw'r boi sy'n perfformio hiwmor ty bach (yn llythrennol) gyda "Blog from the Bog" yn ei gymeriad Elfed Welshbloke. Difyr iawn!

Mi fase'n dda gweld tyfiant yn y math yma o beth yn 2005 - dwi'n gwybod fod yna bobl ddifyr, doniol a deallus yng Nghymru sy'n diddori eu ffrindiau lawr y dafarn - gobeithio fydd rhai o'r 'cymêrs' yma yn dechrau arbrofi drwy blogiau fideo, straeon neu ganeuon. Cyflym bobl, cyn i'r bobl teledu ddarganfod fod yna ffynhonnell rhad iawn yma o raglenni digidol.

Clipiau fideo:
1. The Only...
2. I'd rather...

1 comment:

Rhys Wynne said...

Newydd fod i'r gogledd penwythnos yma ac wedi treulio sawl awr yn darllen y Freepress run fath ac Elfed i ddal i fyny gyda beth sy'n mynd ymlaen.