very annie mary

Neithiwr fe wyliais i'r ffilm Very Annie Mary ar Channel 4 - dyma'r tro cyntaf iddo gael ei ddangos ar deledu daearol dwi'n credu (mae e wedi ei ddangos ar Film Four o'r blaen gan mai nhw a'i arianodd mewn rhan).

Ffilm yn saesneg yw hi am ferch o'r cymoedd yn ymdopi a'r sefyllfa lle mae ei thad (sy'n rhedeg siop fara'r pentre) yn cael strôc - mae hyn yn creu cyfle iddi oresgyn gorthrwm ei thâd a sefyll ar ei thraed ei hun am y tro cynta.

Wedi gwylio'r ffilm eto, rhaid i mi ddweud wnes i fwynhau - roedd y sgript, y cyfarwyddo a'r actio i gyd o safon uchel ond eto roedd rhywbeth yn fy mhoeni drwy'r ffilm. Fe ddewiswyd dau actor 'enwog' (Jonathan Pryce fel Jack Pugh y pobydd bara a Rachel Griffiths fel ei ferch, Annie Mary). Mae Pryce yn Gymro ac yn gallu defnyddio acen addas os nad un sy'n hollol gywir i'r ardal - i ddweud y gwir roedd ei acen yn gweddu i'w gymeriad cas. Roedd Griffiths (sydd o Awstralia) fodd bynnag wedi methu'n llwyr i feistroli'r acen a roedd hyn yn chwithig iawn i'w glywed yn ei golygfeydd hi drwy'r ffilm.

Weithiau roedd hi'n cael un ymadrodd wedi'i acennu'n berffaith ond ar adegau eraill roedd hi'n troi'n americanaidd ar ganol brawddeg. Roedd hyn hyd yn oed yn waeth oherwydd y cyferbyniad gyda rhai o'r actorion Cymreig yn y ffilm oedd yn siarad gyda acenion hollol naturiol.

Mae'n debyg fod 'angen' denu actorion enwog er mwyn sicrhau nawdd a gwerthiant i ffilm, ond dyw hyn ddim yn help os fod hynny'n effeithio ar hygrededd y ffilm. Mae'n bosib na fyddai hyn i gyd yn poeni unrhyw un sydd ddim o Gymru, am na fyddai'r acen yn chwithig i'w clust nhw.

Gwerth nodi hefyd fod ymddangosiad yma gan Matthew Rhys a Ioan Gruffudd fel dau ddyn hoyw sy'n rhedeg siop leol. Mae'r golygfeydd yma yn edrych i mi 'ta beth fel rhai sydd wedi ei sgrifennu mewn er mwyn cynnig rôl i ddau actor oedd (ar y pryd) yn poster-boys ar gyfer talent actio Gymreig.

Dwi ddim yn credu fod y peth yn gweithio yn anffodus. A fyddai dau ddyn hoyw yn eu hugeiniau cynnar yn byw a gweithio mewn siop, mewn cymuned fach yn y cymoedd? Mi fyddai'n fwy realistig gweld dau ddyn llawer hynach. Peth arall od yw fod y ddau actor wedi mynd am yr un stereoteip camp - acen ferchetaidd, lot o chwifio dwylo ayyb. Mae yna fwy i gymeriadu dyn hoyw na gwisgo crys gwyn yn dynn, Ioan! Eto, mi fyddai'n llawer mwy realistig gweld un dyn sydd yn fwy 'bwtsh' a'r llall yn ferchetaidd ac ychydig yn ifancach. Mae yna steroteip fan yna hefyd dwi'n gwybod ond mae'n agosach at y gwir.

Ond peth bach yw hyn yn nghyd-destun y ffilm - rhywbeth dwi'n meddwl sy' ddim yn ffitio i'r portreadu craff sydd yn nghweddill y ffilm. Dwi'n credu fod Ioan a Matthew wedi disgrifio'r ffilmio fel 'bach o hwyl' a dyna yw e... dim byd difrifol.

Mae yna lawer iawn i'w fwynhau yn y ffilm, yn cynnwys cameos gan lawer o wynebau annisgwyl fel Ray Gravelle, Glan Davies a Maureen Rees (y fenyw sy'n beryg bywyd mewn car). Mae'n werth gwylio'r ffilm os allwch chi beidio gwingo gormod ar acen y prif gymeriad.

1 comment:

cridlyn said...

Roedd dau ddyn hoyw yn (rhannol) gyfrifol am redeg ein siop gornel ni pan o'n i'n tyfu lan yn y Cymoedd! Wir yr! ;-)