meddwl yn bositif

Rhaid llongyfarch yr aelod seneddol Chris Smith am ddatgan ei fod wedi bod yn HIV+ am 17 mlynedd. Mae'n beth od i ddefnyddio'r gair 'llongyfarch', ond beth dwi'n feddwl yw fod Mr Smith wedi bod yn esiampl i lawer o bobl am sut i fyw bywyd yn onest - mi fyddai'n well byd petai pawb ym mywyd cyhoeddus yn gallu bod mor agored ag e. Rwy'n nabod rhywun a gyd-weithiodd gydag e am gyfnod a'r hanes oedd ei fod yn 'berson clên' yn ogystal a fod yn wleidydd deallus a egwyddorol.

Mae'n dangos hefyd nad yw'r feirws HIV yn golygu marwolaeth buan i'r rhai sydd ddigon lwcus i fod yn y byd gorllewinol cyfoethog, er ei fod yn cael effaith ddiymwad ar fywyd unrhyw un. I'r trueiniaid yn y trydydd byd mae'r feirws yn gallu bod yn ddedfryd i farwolaeth wrth gwrs a hyn yn bennaf am nad yw'r gwledydd hynny'n gallu fforddio prisiau'r cyffuriau (a rhaid i rai o lywodraethau gwledydd Affrica gymryd peth o'r bai hefyd am ei diffyg cefnogaeth). Mae'n dda gweld Nelson Mandela yn ffigwr amlwg i drio newid y sefyllfa ond mae'n mynd gymryd ymdrech fawr.

Mae Andy Bell o Erasure hefyd wedi sôn yn ddiweddar ei fod yn HIV+ ers 6 mlynedd. Mae'n anodd gwybod sut effaith gall y fath ddatganiadau gael ar y cyhoedd - ar un llaw mae'n bwysig i godi ymwybyddiaeth mewn oes lle fod y 'perygl' mawr wedi diflannu a'r gwir beryg nawr yw fod pobl ifanc yn enwedig yn dechrau credu eto na fase nhw byth yn dal afiechydion rhywiol.

Ar y llaw arall, ydi'r datganiadau cyhoeddus yma'n helpu codi ymwybyddiaeth neu oes yna apathi cyffredinol? Er fod angen addysgu'r cyhoedd yn gyffredinol ac yn gyson, mae'n amlwg hefyd fod yna ddiffyg cyfathrebu i'r gymuned hoyw. Mae'r ffigyrau yn dangos fod cynnydd wedi bod yn yr heintiadau yn y 4 mlynedd diwethaf ac yn enwedig ymysg dynion hoyw a phobl sydd wedi dod yma o neu sydd a chysylltiadau i Affrica. Gweler y datganiad gwasg yma ddoe gan y Terrence Higgins Trust.

No comments: