nid yr unig un ...

Mae criw Little Britain wedi recordio sgets yn arbennig i Comic Relief, fydd yn cynnal y diwrnod 'trwynau coch' nesaf ar Fawrth 11. Mi fydd dau berson enwog yn galw mewn yn y dafarn yn Llanddewi-Brefi, rhywun o'r enw George Michael a ryw foi arall o'r enw Elton John. Sut y fydd Daffyd (ei camsillafad nhw, nid y fi) yn esbonio wedyn mae fe yw'r unig bwff yn y pentre?

Mi fydd yr actores Gymreig Ruth Jones, yn cymryd rhan yn y sgets hefyd - hi sy'n chwarae rhan 'Myfanwy' (y fenyw tu ôl y bar yn nhafarn 'Daffyd'). Cyn dechrau'r ffilmio daeth George Michael fyny ati i ofyn am ei llofnod a fe'i synnwyd gan y ffaith fod rhywun mor enwog yn gwybod pwy oedd hi!

Mae'r gyfres wedi bob yn boblogaidd iawn a wedi cael llawer o heip, ond a ydyn ni wedi cyfnewid un stereoteip o Gymru am un arall? Er ei fod yn hoyw, does gan Matt Lucas ddim profiad o Gymru a dyw ei acen Gymraeg ddim yn dda iawn chwaith. Mae syniad y sgets o'r gyfres wreiddiol yn un da, ond dyw'r joc ddim yn mynd yn ddoniolach wrth ei ail-adrodd dro ar ôl tro. Mae yna well deunydd comedi mewn dilyn cymeriad trwy stori - mae angen dilyniant a symud y stori ymlaen i sefyllfaoedd newydd.

Er fod llawer o pobl o Gymru yn gweithio ar raglenni comedi saesneg, nid nhw sy'n sgrifennu'r sgriptiau. Un o bwrpasau comedi yw dangos yr ochr ddoniol o unrhyw sefyllfa a fe all hyn olygu defnyddio stereoteip neu gymeriad dros-ben-llestri, ond mae'n rhaid eich bod yn gwybod eich pwnc yn drylwyr cyn creu dychan ohono. Felly dy'n ni ddim yn cael adlewyrchiad cywir o Gymru mewn comedi seisnig ei iaith, nac ychwaith golwg ddychanol sy'n ddigon treiddgar a perthnasol.

Mae comedi Cymraeg ei hiaith mewn sefyllfa hyd yn oed yn fwy truenus, ond mae hynny yn stori am ddiwrnod arall.

No comments: