Dwi wedi bod yn gwrando ar albym newydd
Patrick Wolf - Wind In The Wires, sydd yn hyfryd iawn mewn nifer o ffyrdd. Roeddwn i wrth fy modd gyda Lycanthropy a mae'n dda gweld fod y safon yn parhau. Dyma'r math o gerddoriaeth pop sydd yn brin iawn dyddie 'ma, gyda deallusrwydd a dyfnder tu ôl i'r geiriau yn ogystal a melodïau cofiadwy. Felly dyna un reswm da dros brynu'r CD, ond gan mod i'n berson arwynebol, sut allwn ni i wrthod rhywun sy'n ein pryfocio gyda llun
fel hyn?
No comments:
Post a Comment