pigion 01/02

Ers dod allan, mae Gareth Thomas wedi bod yn rhedeg o gwmpas yn siarad a phawb a phopeth ynglŷn a'i rywioldeb (fydd ddim yn gwneud lles i'w honiad gwreiddiol fod e'n 'amherthnasol' a fod e jyst eisiau cael ei adnabod fel chwaraewr rygbi). Mae e nawr yn noddwr i Fis Hanes LGBT sy'n cymeryd lle yn ystod mis Chwefror.

Mae'r actor Iwan Rheon wedi bod yn brysur yr wythnos ddiwethaf gyda ymddangosiadau teledu. Fe wnaeth criw Misfits ymddangos ar sioe Jonathan Ross nos Wener lle wnaeth y cyflwynydd hir walltog twp benderfynu cam-yngau yr enw Iwan fel 'jôc'. Roedd Iwan ei hun yn reit dawel ond efallai roedd hynny mewn cyferbyniad i weddill y cast oedd yn ddiawled bach or-hyderus a siaradus.

Ar y dydd Sul wedyn, roedd Iwan ar Uned 5 mewn un o'r cyfweliadau lletchwith hynny mae rhywun yn ddisgwyl ar teledu plant rhad, gyda cyflwynydd hyper a whoops moronig gan y llond llaw o griw tu ôl y camera. Felly dyma hi cyfweliad Uned 5, a chyfweliad Wossy isod.

No comments: