calendr llewod caerdydd

Wnes i awgrymu o'r blaen y dyle ni gael calendr o hyncs rygbi Cymru. Wel diolch felly i 'Lewod Caerdydd', yr unig dîm rygbi hoyw yng Nghymru am greu galendr sydd i'w lansio ym Mardi Gras 2005 - sy'n cymryd lle ar ddydd Sadwrn, 10fed o Fedi.

Mae rhagolwg bach o'r calendr yma a mae'n bosib prynu rhai o'r wefan neu fe fydd copïau wedi arwyddo ar werth yn y Mardi Gras.

1 comment:

Dafydd Tomos said...

Wel ti'n dysgu rywbeth newydd bob dydd.. o'n i ddim yn gwybod am fodolaeth y Llewod.

Wyt ti'n mynd i'r Mardi Gras hyfryd berson?