Mae'r rhif 8 yn lwcus yn ôl ofergoelion y Tseiniaid, ac ar y dyddiad uchod yr agorwyd y Gemau Olympaidd. Ond roedd hi'n lwcus i fi hefyd - fore Gwener ges i sypreis wrth fynd ar y bys a gweld Matthew Rhys a'i rieni, ar y ffordd i'r maes i gael ei urddo. Neis gweld fod ei draed dal ar y ddaear.
Ychydig yn llwm oedd hi o ran sbotio selebs ar y maes, dyw hi ddim yn argoeli'n dda pan mae rhywun yn gweld "y boi na o Bobol y Cwm" ond yn methu cofio ei enw. Dwi ddim yn gwybod lle oedden nhw'i gyd - efallai fod y ffaith fod yr Eisteddfod yng nghanol Caerdydd yn golygu fod nhw gyd wedi dianc cyn gynted a gallen nhw i dafarndai a fariau'r brifddinas.
1 comment:
Digwydd edrych ar yr Eisteddfod ar y we neithiwr , ac 'roedd 'na gyfweliad efo Matthew Rhys. 'Roedd wrthi'n gweithio yn fan fwyd ei gefnder chwarae teg iddo.
Mae'n ymddangos ei fod wedi cael 'steddfod wrth ei fodd!
Post a Comment