Llongyfarchiadau i'r dyfarnwr Nigel Owens am ennill personoliaeth chwaraeon y flwyddyn yng ngwobrau
Stonewall neithiwr yn Llundain. Mae wedi bod yn wych i weld sut mae Nigel wedi gallu bod yn ddyn hoyw agored ym myd macho rygbi Cymru a gobeithio fydd e'n annogaeth i gael cymdeithas fwy goddefol yn y byd chwaraeon a meysydd eraill yng Nghymru.
A Nigel, os wyt ti'n darllen... ebostia os ti'n ffansi sgrym fach rhywbryd..
No comments:
Post a Comment