Newyddion o LA: Yn ddiweddar dwi wedi bod yn gwylio drama newydd ar sianel abc, Brothers and Sisters. Yr unig rheswm i wylio yw fod Matthew Rhys ynddo - mae'n chwarae rhan 'Kevin', cyfreithiwr (sy'n digwydd bod yn hoyw). Wel fe a Dave Annable sy'n hoff o ymddangos mewn golygfeydd heb ei grys - dim syniad eto os fydd Matthew yn dinoethi ond hei, ni'n byw mewn gobaith.
Dwi ddim yn meddwl fasen i'n gwylio'r math yma o raglen fel arfer, a mae gan Matthew dechneg ychydig yn ryfedd o chwarae y cymeriad yma fel petai rhyw wynt cas dan ei drwyn o hyd. Ond fe wnai roi cyfle iddo am ychydig o bennodau eto.
Mae gan y raglen wefan gyda bywgraffiad i'r actorion a mae un neu ddau sylw difyr yn un Matthew: "Matthew Rhys was born and raised in the historic city of Cardiff". "Rhys realized that a career in farming or in the armed forces was not for him" - sôn am random.
No comments:
Post a Comment