y bêl hirgron

Dy'n ni ddim yn deall rygbi (yma yn y byd hyfryd hynny yw, ac ydyn rydyn ni wedi dechrau siarad am ein hunain yn y trydydd person. Pa mor ymhongar ydyn ni? Teyrnged o fath i Russell T. Davies a mi fyddwch chi'n gwybod am be dwi'n sôn os ydych chi wedi gwrando ar sylwadau'r cynhyrchwyr sydd ar DVD Doctor Who. Gawn ni gau'r cromfachau yma nawr? Iawn.), ond rydyn ni'n gwybod pryd i dalu sylw i'r gêm ryfedd honno.

A'r adeg i dalu sylw yw pan mae talent ifanc ffres yn dod fewn i'r gêm wrth gwrs. Wel mae'n gwneud y gwylio gymaint yn fwy pleserus ondiwe? Ry'n ni wedi sôn am Gavin Henson o'r blaen ond fe gyhoeddodd Mike Ruddock (ryw fath o hyfforddwr yw e ni'n credu) heddiw y garfan ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Yn wir, rydyn ni wedi cyffroi wrth ddefnyddio yr holl derminoleg rygbi cymleth yma - bron ein bod ni'n arbennigwyr nawr!

Un o'r bois newydd yn y garfan sydd wedi dal ein sylw yw Gareth Delve a mae'n amlwg fod gan Ruddock (y drefn arferol yn y sefyllfa yma yw defnyddio'r cyfenw ni'n credu) yr un farn:


Delve is catching the eye at the moment and it is nice to be able to call on someone of his quality

Rhaid i ni gytuno'n hollol (o berspectif gwahanol) ac efallai fydd Gavin yn gorfod cystadlu am ein sylw o hyn ymlaen. Dyma gymhariaeth rhwng Gavin a Gareth:

  1. Enw yn dechrau gyda'r lythyren G? Check!
  2. Ganwyd yn 1982? Check! (ganwyd Delve o fewn un diwrnod i ddiwedd y flwyddyn)
  3. Gwallt sbeici tywyll? Check!
  4. Gwyneb golygus ond anarferol? Check! (sdim syniad da ni beth yw tras Gavin ond mae Gareth yn hanner tsieinïaidd)
  5. Lliw haul ffug? O na, mae Gareth yn colli fan hyn. Ond dweud y gwir, mae'n well gennym yr olwg naturiol, mae mynd dros ben llestri gyda'r lliw haul mor 2005 ondiwe.
  6. Cariad enwog a chyfoethog? Wel sdim syniad ganddon ni am fywyd preifat Gareth ond falle fod hynny am y gorau.

Cwpl o ffeithiau arall am Gareth... mae'n foi mawr - 1.91m (neu 6 troedfedd 3 modfedd os ydych chi dal yn y canol oesoedd) a 115kg. Mae yna lun reit neis ohono ar tudalen ei broffil yn Nglwb Rygbi Bath, ond dyma lun arall ohono yn gwenu'n ddel. Ry'n ni nawr yn edrych ymlaen i'w weld ar y cae!

dr huw?

Mae Huw Edwards yn eicon hoyw mae'n debyg, ers iddo ddod yn gyfarwydd i gynulleidfa Brydeinig ar raglenni newyddion. Dyma wefan gan rywun sy'n ffan mawr o Huw a hyd yn oed wedi cynllunio sioe newydd iddo - Doctor Huw. Syniad da i BBC Cymru os fydd David Tennant eisiau rhoi'r gorau iddi?

mr cynhyrchydd

Wnes i ymweld a gwefan newydd Mr Producer heddiw, sef cwmni gwneud sbloets Stifyn Parri. Ac wrth edrych ar y dudalen gysylltu welais i lun hogyn del - Kieron. Neis. Sgwn i pam fod Stifyn wedi ei gyflogi fe 'te?

adduned blwyddyn newydd

Blwyddyn Newydd Dda! Dwi wedi cael llu o negeseuon (wel un i ddweud y gwir) i ofyn pam nad ydw i'n blogio'n amlach. Felly adduned i 2006 fydd trio cofio sgrifennu fwy fan hyn. Ond cofiwch, ansawdd nid nifer sy'n cyfri - mae yna ddigon o rwtsh ar rhai o'r blogiau Cymraeg 'ma heb i fi ychwanegu atynt.

Sut flwyddyn oedd 2005 i fi? Wel wnes i ffeindio swydd ddiddorol, symud i Lundain, syrthio mewn cariad, ymuno a phrosiect D5 a dysgu sut i gadw cyfrinach. Flwyddyn yma dwi'n gobeithio fydd hi'n bosib symud nôl i Gymru neu dianc o grafangau amser yn llwyr os yw'r cynllun mawr am weithio...